Mae'r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac efallai na fydd rhai nodweddion ar gael dros dro.
Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio i wella eich profiad.
Cyhoeddwyd: 18/05/2026
Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi partneru â Hwb Dementia Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (BIPBA) i gynnig cyfle dysgu arloesol yn seiliedig ar ymarfer i fyfyrwyr proffesiynau perthynol i iechyd. Mae'r lleoliad 2 wythnos hwn yn helpu myfyrwyr i ennill profiad go iawn mewn lleoliad cymunedol, tra'n cyfrannu'n uniongyrchol at welliannau mewn gofal i bobl sy'n byw gyda dementia a'r rhai sy'n eu cefnogi. Trwy fentrau fel hyn, mae AaGIC yn helpu i ddatblygu gweithlu sy'n fedrus, yn gallu addasu ac wedi’u paratoi’n well i ddiwallu anghenion iechyd meddwl a lles pobl a chymunedau ledled Cymru.
Mae Hwb Dementia Abertawe yn darparu cymorth dementia cymunedol mynediad agored i bawb yr effeithir arnynt gan ddementia a'r rhai a hoffai ddysgu mwy amdano a'r gwasanaethau cymorth sydd ar gael. Mae'r Hwb wedi’i gomisiynu gan BIPBA fel rhan o'u llwybr Lles Dementia i gyflawni Cynllun Gweithredu Dementia Cymru.
Dechreuodd dau fyfyriwr dieteg cyn-gofrestru ar y lleoliad cyntaf gyda Hwb Dementia Abertawe. Tra yno, canolbwyntiodd y myfyrwyr ar brosiect sy'n adolygu'r adnoddau bwyd bys a bawd sydd ar gael ar hyn o bryd i bobl sy'n byw gyda dementia. Gall bwydydd bys a bawd helpu i wella cymeriant maethol trwy alluogi unigolion i fwyta'n fwy annibynnol, gan leihau'r rhwystredigaeth neu'r dryswch a all weithiau godi wrth ddefnyddio cyllyll a ffyrc.
Yn dilyn hyn, gweithiodd y myfyrwyr mewn partneriaeth â thîm Hwb, pobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr i gyd-greu adnodd sy’n seiliedig ar dystiolaeth sy’n ymarferol i gefnogi darpariaeth bwyd bys a bawd i bobl â dementia sy'n byw yn y gymuned. Mae'r adnodd hwn yn gwella mynediad at wybodaeth faethol glir a hygyrch, tra hefyd yn darparu arweiniad ymarferol i ofalwyr i gefnogi gofal o ddydd i ddydd.
Dywedodd Hwb Dementia Abertawe:
"Mae'r prosiect hwn yn dangos gwir werth gweithio ar y cyd, lle gall myfyrwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol a'r trydydd sector gyfuno eu cryfderau i greu newid ystyrlon. Mae eu dull arloesol yn dangos sut y gall gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd ymgysylltu â'r trydydd sector mewn ffyrdd sy'n greadigol, sy'n canolbwyntio ar y person ac yn effeithiol iawn, a fydd o fudd i'n cymuned ymhell ar ôl i'w lleoliad ddod i ben."
Mae'r lleoliad hwn wedi cryfhau cysylltiadau rhwng BIPBA a'r trydydd sector, gan helpu myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth ehangach o sut mae gwasanaethau yn cydweithio i gefnogi pobl sy'n byw gyda dementia.
Dywedodd goruchwyliwr y bwrdd iechyd:
“ cyd-gynhyrchodd myfyrwyr adnodd ymarferol y gellid ei ddefnyddio gan yr Adran Ddeieteg a'r Hwb Dementia. Roedd yr holl brofiad yn teimlo'n gydweithredol, yn greadigol, ac yn wirioneddol ddefnyddiol i bawb oedd yn cymryd rhan."
Mae hon yn enghraifft wych o sut mae AaGIC yn gweithio gyda phartneriaid i ehangu a gwella cyfleoedd dysgu seiliedig ar ymarfer ar draws ystod o leoliadau, gan gynnwys sefydliadau cymunedol a'r trydydd sector.
I gael rhagor o wybodaeth am ddysgu ar leoliad, cysylltwch â'r Tîm Addysg Ymarfer AaGIC.