Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac efallai na fydd rhai nodweddion ar gael dros dro.
Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio i wella eich profiad.

Dod â gofal iechyd yn agosach at adref: Sut mae Academïau Gofal Sylfaenol a Chymunedol AaGIC yn cefnogi dyfodol iechyd yng Nghymru

Cyhoeddedg: 25/09/2025

Yng Nghymru, mae dyfodol gofal iechyd yn cael ei lunio nid yn unig mewn ysbytai, ond yn ein cymunedau. Gyda ffocws cynyddol ar ofal ataliol, gwasanaethau integredig a hygyrchedd lleol, mae'r angen am weithlu gofal sylfaenol a chymunedol medrus, addasadwy, sydd â chefnogaeth, erioed wedi bod yn fwy pwysig. Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi ymrwymo i wella addysg, hyfforddiant a chynaliadwyedd y gweithlu o fewn Gofal Sylfaenol a Chymunedol.

Datblygwyd y Cynllun Gweithlu Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol gan AaGIC a'r Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol, mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid, a'i lansio ym mis Mai 2024. Mae'r cynllun yn nodi chwech ar hugain o gamau gweithredu allweddol i'w cyflawni dros 5 mlynedd sy'n cyd-fynd â themâu Strategaeth y Gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Gan gydweithio â byrddau iechyd, sefydlodd AaGIC saith academi gofal sylfaenol yn 2022. Mae hyn yn adeiladu ar y cyrsiau a'r rhaglenni hyfforddi presennol a gomisiynwyd gan AaGIC ar gyfer rolau gofal sylfaenol sefydledig.

Beth yw'r Academïau Gofal Sylfaenol a Chymunedol?

Mae rhwydwaith yr Academi Gofal Sylfaenol yn fenter addysg a hyfforddiant gydweithredol, ystwyth ac aml-broffesiynol. Mae'n grymuso gweithwyr proffesiynol gofal sylfaenol drwy addysg; yn cefnogi arloesedd; ac yn gwella gofal cleifion ar draws cymunedau drwy ddatblygu gweithlu cynaliadwy sy'n barod ar gyfer y dyfodol. Wedi'u cefnogi gan AaGIC ac wedi'u hymgorffori ym mhob un o'r byrddau iechyd, mae'r Academïau'n cefnogi effeithiolrwydd lleol a chysondeb cenedlaethol mewn addysg a hyfforddiant.

Mae Dr Esther Lomas, Cyfarwyddwr Addysg a Hyfforddiant Gofal Sylfaenol a Chymunedol Aml-broffesiynol AaGIC, yn egluro:

"Mae creu diwylliant dysgu yn allweddol i gefnogi ein gweithlu presennol a gweithlu'r dyfodol i wella eu sgiliau'n barhaus. Mae dysgu mewn lleoliadau clinigol yn caniatáu i fyfyrwyr, hyfforddeion ac ymarferwyr profiadol fyfyrio ar eu sgiliau a'u gwella er budd uniongyrchol cleifion.  Mae hyn yn cynnwys cynnal lleoliadau, rolau ymarfer clinigol uwch, a chyfleoedd dysgu rhyngbroffesiynol."

Drwy gydweithio â chlystyrau, practisau lleol, a chyrff cenedlaethol, gall academïau alinio hyfforddiant ag anghenion y gweithlu. Mae nodau strategol yn cynnwys gwella recriwtio a chadw staff, meithrin cydweithio aml-broffesiynol, a sicrhau gweithlu cymwys a hyderus sy'n barod i wynebu heriau'r dyfodol.

Pam maen nhw'n bwysig?

Gan dynnu ar ei phrofiad clinigol fel meddyg teulu, dywed Dr Lomas, “Mae gofal iechyd yn newid. Wrth i'r boblogaeth heneiddio a chyflyrau hirdymor ddod yn fwy cyffredin, mae symud tuag at ddarparu gofal iechyd yn y gymuned yn agos at adref ac i ffwrdd o leoliadau ysbytai acíwt yn hanfodol. Mae hynny'n gofyn am weithlu sydd nid yn unig yn fedrus yn glinigol ond sydd hefyd yn gyfarwydd ag anghenion, diwylliannau a heriau'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu."

Mae'r academïau'n helpu i:

  • Wneud rolau cymunedol yn fwy deniadol drwy alluogi llwybrau hyfforddi gweladwy, â chymorth, o addysg gynnar i ymarfer uwch.
  • Mynd i’r afael ag ardaloedd gwledig a rhai sydd wedi’u tanwasanaethu , gan leihau anghydraddoldebau iechyd drwy annog gweithwyr proffesiynol i hyfforddi ac aros yn eu rhanbarthau lleol.
  • Gwella canlyniadau cleifion, diolch i dimau mwy integredig a chydweithredol sydd wedi'u hyfforddi i ddarparu gofal cyfannol sy'n canolbwyntio ar y person.
Alinio hyfforddiant ag anghenion y byd go iawn

Un o gryfderau mwyaf model yr Academi yw ei ymatebolrwydd i anghenion newidiol gofal iechyd. Drwy gydweithio agos â chlystyrau gofal sylfaenol, practisau lleol a sefydliadau cenedlaethol, mae'r Academïau'n cefnogi hyfforddiant sy'n cyd-fynd yn uniongyrchol â gofynion y gweithlu – heddiw ac yn y dyfodol.

Mae blaenoriaethau strategol yn cynnwys:

  • Gwella recriwtio a chadw
  • Cryfhau cydweithio aml-broffesiynol
  • Sicrhau hyder a chymhwysedd y gweithlu yn wyneb heriau newydd

Mae'n ddull cydgysylltiedig sy'n golygu bod dysgwyr a chleifion yn elwa o system addysg sy'n deall realiti gofal.

Rhaglen Datblygu Rheoli Practisau

Mae AaGIC yn cydnabod y rôl ganolog y mae rheolwyr practis yn ei chwarae wrth sicrhau fod practisau yn rhedeg yn iawn. Yn aml, mae nhw’n asgwrn cefn y practis, gan gydbwyso gweithrediadau clinigol, ymgysylltiad cleifion a rheoli tîmau – a hynny i gyd wrth gadw ansawdd gofal yn flaenllaw.

I gefnogi'r grŵp hanfodol hwn, mae AaGIC yn datblygu'r Rhaglen Datblygu Rheoli Practisau. Gan weithio gyda rhanddeiliaid allweddol ar draws grwpiau contractwyr, bydd y rhaglen yn cynnig set hyblyg a pherthnasol o gyfleoedd dysgu, gan gynnwys:

  • Fframwaith cymhwysedd newydd ar gyfer rheoli gofal sylfaenol
  • Amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi
  • Canllawiau lleol i ddiwallu anghenion penodol rheolwyr practis ledled Cymru

Mae'r fenter hon wedi'i chynllunio i arfogi timau rheoli practis â'r sgiliau a'r hyder sydd eu hangen i lywio gofynion cynyddol, heriau recriwtio a phwysau cynaliadwyedd hirdymor.

Edrych ymlaen

Mae gweledigaeth AaGIC ar gyfer gofal sylfaenol a chymunedol yn glir: gweithlu hyderus, cymwys a chydweithredol, sydd yn gallu diwallu anghenion cymunedau ledled Cymru nawr ac yn y dyfodol.

Drwy fuddsoddi mewn addysg a datblygiad ar draws pob rôl a phroffesiwn, a thrwy ymgorffori'r gefnogaeth hon mewn lleoliadau clinigol yn y byd go iawn, mae'r Academïau Gofal Sylfaenol a'r Rhaglen Datblygu Rheoli Practisau yn gamau hanfodol tuag at y dyfodol.

I ddysgu mwy neu i gymryd rhan, ewch i Gofal sylfaenol - AaGIC