Neidio i'r prif gynnwy

Cynhadledd Efelychu ar y cyd

Dechrau:
09:30 - 05/07/2023
Diwedd:
16:30 - 05/07/2023
Math o ddigwyddiad:
Lleoliad:
Hybrid

Disgrifiad

Beth yw e?

Croeso i dudalen we Cynhadledd Efelychu AaGIC a Phrifysgol Aberystwyth.

Mae'r gynhadledd hybrid hon yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol Aberystwyth ac ar-lein trwy Microsoft Teams ar ddydd Mercher, 5 Gorffennaf 2023 ac mae'n agored i bob unigolyn sydd â diddordeb mewn efelychu gofal iechyd (Sylwer: mae cofrestru ymlaen llaw yn hanfodol).

Thema'r gynhadledd eleni yw ‘Esblygu Addysg a Hyfforddiant sy’n Seiliedig ar Efelychu: Coleddu technolegau digidol i gefnogi dysgu gofal iechyd proffesiynol.

Bydd rhaglen y diwrnod yn cynnwys cyflwyniadau a thrafodaethau yn canolbwyntio ar:

  • Dulliau newydd ac arloesol o gyflwyno efelychiadau
  • Efelychu o bell
  • Efelychu rhyngbroffesiynol
  • Rhwydweithiau Diddordeb Arbennig: Efelychu Iechyd meddwl, efelychu o bell, efelychu cymunedol a efelychu rhyngbroffesiynol
  • Byddwn hefyd yn arddangos prosiectau o bob cwr o Gymru.

Os hoffech ragor o wybodaeth am y gynhadledd hon neu os oes gennych ddiddordeb mewn cofrestru, e-bostiwch Tîm Efelychu AaGIC ar HEIW.Simulation@wales.nhs.uk.

 

Ar gyfer pwy mae e?

Mae'r digwyddiad hwn yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb mewn efelychu gofal iechyd.

 

Sut gallaf ymuno?

Defnyddiwch y ddolen gofrestru hon i archebu eich lle. Nodwch fod llefydd yn gyfyngedig ar gyfer presenoldeb ar-lein ac wyneb yn wyneb.

 

Adnoddau

Gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer y diwrnod

Simulation conference programme - Aberystwyth 5.7.2023 cym.pdf

Simulation conference programme - Virtual 5.7.2023 cym.docx

Rhwydweithiau Diddordeb Arbennig.pdf