Neidio i'r prif gynnwy

Myfyrwyr nyrsio, bydwreigiaeth a proffesiynau perthynol i iechyd

representation of two footprints

Gall staff nawr ymweld â’r ‘Porth Covid-19 Lles Staff GIG Cymru’ sy’n darparu adnoddau iechyd a lles i gefnogi staff yn ystod yr adeg anodd hon.

Mae adnoddau adfer dysgu ymarfer Covid-19 Cymru Gyfan a ddatblygwyd gan AaGIC mewn partneriaeth â phrifysgolion, Byrddau Iechyd a rhanddeiliaid allweddol ledled Cymru, yn darparu ystod o ddeunyddiau i gefnogi mynediad diogel myfyrwyr gofal iechyd i leoliadau ymarfer yn ystod yr amser hwn.

Gellir gweld canllawiau Offer Amddiffyn Personol (PPE) ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a dolenni cysylltiedig yma.

Y canllawiau diweddaraf i myfyrwyr nyrsio, bydwreigiaeth a proffesiynau perthynol i iechyd mewn ymateb i COVID-19. Sicrhewch eich bod yn edrych ar y dogfennau diweddaraf. Bydd dogfennau nad ydynt bellach yn ddilys yn cael eu marcio fel rhai 'wedi'u harchifo' ond maent ar gael o hyd er gwybodaeth.

Date Details
Nyrsio a Bydwreigiaeth
25/01/2021 Mae AaGIC wedi cyhoeddi Cwestiynau Cyffredin Covid-19 wedi’u diweddaru ynghylch myfyrwyr nyrsio, bydwreigiaeth, proffesiynau perthynol i iechyd a gwyddorau gofal iechyd cyn-cofrestru – canllaw i fyfyrwyr, goruchwylwyr ymarfer, addysgwyr ac aseswyr (Ionawr 2021). 
15/01/2021 Llythyr i holl fyfyrwyr nyrsio a bydwreigiaeth yng Nghymru gan yr Athro Jean White, Prif Swyddog Nyrsio, Llywodraeth Cymru a Dr Angela Parry, Cyfarwyddwr Nyrsio Dros Dro, AaGIC.
12/01/2021 Datganiad sefyllfa gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Llywodraeth Cymru ar mynediad myfyrwyr gofal iechyd i frechiad Covid-19. Mae'r datganiad sefyllfa hwn yn cadarnhau mynediad unigol myfyrwyr i frechiad Covid-19 yn unol ag amserlennu grwpiau blaenoriaeth.
06/11/2020 Myfyriwr Gofal Iechyd Cymru Gyfan PACT: Cefnogi mynediad diogel myfyrwyr gofal iechyd i amgylcheddau dysgu ymarfer yn ystod cyflyrau pandemig.
09/09/2020 Datganiad sefyllfa gan Llywodraeth Cymru ac AaGIC yn cadarnhau bod gan fyfyrwyr meddygol, nyrsio, bydwreigiaeth, proffesiynau perthynol i iechyd a gwyddor gofal iechyd statws gweithiwr allweddol parhaus wrth gyflawni lleoliadau ymarfer fel rhan o'u rhaglen ddysgu.
30/03/2020 Crynodeb o 'Canllawiau Cymorth i Fyfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth yn ystod COVID-19'sy'n canolbwyntio ar sut y gall myfyrwyr nyrsio a bydwreigiaeth gefnogi'r system iechyd a gofal yn ystod yr argyfwng hwn. [Wedi'u harchifo]
25/03/2020 Mae'r NMC wedi cyhoeddi datganiad ynglŷn â chyfraniad myfyrwyr nyrsio nad ydynt yn chwe mis olaf eu rhaglen. Yr ydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar sut y gallwn weithredu hyn yng Nghymru. [Wedi'u harchifo]
19/03/20 Datganiad ar y cyd ar ehangu'r gweithlu bydwreigiaeth yn ystod achos Covid-19 gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC). [Wedi'u harchifo]
19/03/20 Datganiad ar y cyd ar ehangu'r gweithlu nyrsio yn ystod achos Covid-19 gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC). [Wedi'u harchifo]
12/03/20 Cytunwyd ar y cyd i nyrsys a bydwragedd ac fe'i hanfonwyd o dan y teitl 'Cefnogi Nyrsys a Bydwragedd ar draws y DU a Nyrsys Cysylltiol (Lloegr yn unig) os ceir epidemig COVID-19 yn y DU'. [Wedi'u harchifo]
Proffesiynau Perthynol i Iechyd a Gwyddonwyr Gofal Iechyd
02/09/2021 Dychwelyd ar ôl teithio i wledydd rhestr oren: canllawiau i staff iechyd a gofal cymdeithasol
25/01/2021 Mae AaGIC wedi cyhoeddi Cwestiynau Cyffredin Covid-19 wedi’u diweddaru ynghylch myfyrwyr nyrsio, bydwreigiaeth, proffesiynau perthynol i iechyd a gwyddorau gofal iechyd cyn-cofrestru – canllaw i fyfyrwyr, goruchwylwyr ymarfer, addysgwyr ac aseswyr (Ionawr 2021). 
12/01/2021 Datganiad sefyllfa gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Llywodraeth Cymru ar mynediad myfyrwyr gofal iechyd i frechiad Covid-19. Mae'r datganiad sefyllfa hwn yn cadarnhau mynediad unigol myfyrwyr i frechiad Covid-19 yn unol ag amserlennu grwpiau blaenoriaeth.
09/04/2020 Rydym wedi datblygu Canllawiau Cymorth Cyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal i Weithwyr Proffesiynol Rheoledig Perthynol i Iechyd a Myfyrwyr Gwyddor Gofal Iechyd PTP dros gyfnod haint COVID-19 i gefnogi myfyrwyr proffesiynol perthynol i iechyd a myfyrwyr gwyddoniaeth gofal iechyd wedi’i rheoli gan yr HCPC ar sut gallent gefnogi’r system iechyd a gofal yn ystod yr argyfwng hwn.
23/03/2020 Datganiad gan AaGIC, Cyngor Deoniaid Iechyd Cymru, Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau'r GIG-Cyfarwyddwyr Therapïau a Gwyddorau Gofal Iechyd a NWSSP – Gwasanaethau Cyflogaeth ar 'Recriwtio pob myfyriwr AHP a gwyddor gofal iechyd sy'n graddio yn yr haf 2020.'