Hyfforddwyr, addysgwyr a chyflogwyr meddygol, deintyddol a fferylliaeth

Gall staff nawr ymweld â’r ‘Porth Covid-19 Lles Staff GIG Cymru’ sy’n darparu adnoddau iechyd a lles i gefnogi staff yn ystod yr adeg anodd hon.

Gellir gweld canllawiau Offer Amddiffyn Personol (PPE) ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a dolenni cysylltiedig yma.

Y canllawiau diweddaraf i hyfforddwyr, addysgwyr a chyflogwyr meddygol, deintyddol a fferylliaeth mewn ymateb i COVID-19:

Cyffredinol  
12/03/2020 Rydym wedi cyhoeddi canllawiau gweithredol i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau ar symud hyfforddeion meddygol, deintyddol a fferyllol i gefnogi gwasanaethau a gofal cleifion yn ystod yr achosion hyn. Anfonwyd copi o'r canllawiau hyn at yr hyfforddeion hefyd
03/03/2020 Mae rheoleiddwyr eisoes wedi cyhoeddi canllawiau i weithwyr iechyd a gofal proffesiynol drwy'r cyngor proffesiynau iechyd a gofal.
Meddygol  
16/03/2020 Gyda'n cydweithwyr o'r pedwar corff addysg statudol (HEE, NES, AaGIC ac NIMCYD) a'r GMC fe wnaethom gyhoeddi'r cynlluniau hyn ar gyfer rheoli cylchdroadau hyfforddiant meddygol yn ystod cyfnod oedi'r argyfwng iechyd cyhoeddus presennol. Yn ogystal, rydym yn datblygu cwestiynau cyffredin i gefnogi hyfforddeion yn ystod y cyfnod hwn.
17/03/2020 Oherwydd y datblygiadau diweddar mewn perthynas â phellterau cymdeithasol, mae penderfyniad wedi'i wneud gan y pedwar corff addysg statudol (HEE, NES, AaGIC ac NIMCYD) i ganslo'r holl gyfweliadau recriwtio arbenigol wyneb yn wyneb ar unwaith. Ar gyfer yr holl recriwtio sydd i'w gynnal yng Nghymru, mae'r recriwtiwr arweiniol yn anfon llythyr yn uniongyrchol at ymgeiswyr.
19/03/2020

Canllawiau a gyhoeddwyd gyda'r tri chorff addysg statudol arall yn y DU ynghylch addasu'r asesiad o Ddilyniant yr Adolygiad Blynyddol o Gymhwysedd yn ystod achos COVID-19.

19/03/2020 Cyhoeddwyd canllawiau  gyda'r tri chorff addysg statudol arall yn y DU, Academi'r Colegau Brenhinol Meddygol, y Cyngor Meddygol Cyffredinol a COPMED mewn perthynas ag arholiadau i feddygon dan hyfforddiant yn ystod achos COVID-19.
25/03/2020 Datganiad ar y cyd gan Adrannau Iechyd y DU, y Cyngor Meddygol Cyffredinol, Addysg Iechyd Lloegr, Addysg GIG yr Alban, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Asiantaeth Hyfforddiant Meddygol a Deintyddol Gogledd Iwerddon, a'r Cyngor Ysgolion Meddygol.  Mae'n nodi'r dull gweithredu ar gyfer y DU gyfan rydym wedi cytuno i hwyluso'r cofrestriad dros dro cynnar fel meddygon o fyfyrwyr meddygol blwyddyn olaf addas ar ôl iddynt raddio, a'r cofrestriad llawn cynnar o feddygon Blwyddyn 1 Sylfaen addas.
30/03/2020

Gyda'n cydweithwyr o'r pedwar corff addysg statudol (HEE, NES, HEIW a NIMDTA) gwnaethom gyhoeddi'r cynlluniau hyn ar gyfer recriwtio arbenigedd.

01/04/2020 Diweddariad a anfonwyd gan yr Uned Cymorth Ailddilysu yn AaGIC at bob meddyg teulu yng Nghymru trwy MARS ynghylch arfarniadau meddygol ac ailddilysu.
01/04/2020 Datganiad a gyhoeddwyd gan y cyd-bwyllgor ar hyfforddiant llawfeddygol (JCST) ar COVID-19 ar dilyniant hyfforddeion yn 2020.
03/04/2020 Dyma'r cwestiynau cyffredin diweddaraf i hyfforddwyr meddygol mewn gofal eilaidd.
06/04/2020 Mae cyfarwyddwr meddygol o'r pedwar corff addysg statudol (HEE, NES, HEIW ac NIMCYD) wedi cyhoeddi llythyr i hyfforddeion a hyfforddai meddygol ynghyd â chanllawiau ar reoli’r proses ARCP.
08/04/2020 Canllawiau gan y pedwar corff addysg statudol (HEE, NES, HEIW ac NIMCYD) - 'Cefnogi yr ymateb i COVID-19: Cynlluniau ar gyfer Rheolaeth Cylchdroadau Hyfforddiant Meddygol' - yn fis Mai, Mehefin a Gorffennaf.
20/04/2020

Canllawiau gan y pedwar corff addysg statudol (HEE, NES, HEIW ac NIMCYD) ar galluogi dilyniant yn ARCP mewn ymateb i COVID-19.

29/04/2020 Gyda'n cydweithwyr o'r pedwar corff addysg statudol (HEE, NES, HEIW ac NIMCYD) rydym wedi cyhoeddi llythyr i hyfforddeion a hyfforddwyr meddygaeth teulu ar ein hymdrechion i fynd i'r afael â'r materion cyfredol i hyfforddeion yn eu blwyddyn olaf o hyfforddiant arbenigedd MT.
 
04/06/2020 Ynghyd â Phrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe, mae Addysg a Iechyd Gwella Cymru wedi cyhoeddi egwyddorion ar gyfer ailgychwyn addysg feddygol.
18/09/2020 Datganiad sefyllfa gan Llywodraeth Cymru ac AaGIC yn cadarnhau bod gan fyfyrwyr meddygol, nyrsio, bydwreigiaeth, proffesiynau perthynol i iechyd a gwyddor gofal iechyd statws gweithiwr allweddol parhaus wrth gyflawni lleoliadau ymarfer fel rhan o'u rhaglen ddysgu.
Deintyddol  
17/03/2020 Cyhoeddodd Prif Swyddog Deintyddol (Cymru) lythyr at bob tîm deintyddol gofal yn yr holl flaenoriaeth yng Nghymru ynghylch yr achosion o Coronafeirws a'r hyn y mae'n ei olygu i dimau deintyddol cyffredinol a thimau gwasanaethau deintyddol cymunedol yng Nghymru.
17/03/2020 Gyda'r pedwar corff addysg statudol HEE, NES, AaGIC, NIMCYD, (SEBau) rydym wedi cyhoeddi canllawia i gyflogwyr gofal sylfaenol, hyfforddwyr a hyfforddeion ynghylch rheoli addysg a hyfforddiant deintyddol yn ystod yr argyfwng presennol ym maes iechyd y cyhoedd.
23/03/2020 Cyhoeddi datganiad ar y cyd ar drefniadau ar gyfer myfyrwyr proffesiynol ym maes gofal deintyddol a deintyddol a graddedigion diweddar, tra bod cyfyngiadau ar waith i reoli lledaeniad COVID-19.
24/03/2020 Anfonwyd llythyr heddiw at Oruchwylwyr Addysg Ddeintyddol ynghylch y trefniadau ar gyfer Hyfforddiant Sylfaen Ddeintyddol mewn ymateb i COVID-19.
26/03/2020

Anfonodd Colette Bridgman, Prif Swyddog Deintyddol (Cymru), lythyr at bob tîm deintyddol gofal sylfaenol yng Nghymru ynghylch parhad busnes a chymorth ariannol i bractisau deintyddol gofal sylfaenol annibynnol sy'n darparu gwasanaethau'r GIG.

27/03/2020 Mae’r wybodaeth ganlynol ar gyfer gweithwyr gofal iechyd yng Nghymru wedi’i hafnon at yr holl hyfforddeion Hyfforddiant Arbenigol Deintyddol, cyfarwyddwr rhaglenni hyfforddi a goruchwylwyr addysgol.
31/03/2020 Llythyr gan AaGIC ar hwyluso cyfleoedd adleoli i dimau deintyddol yng Nghymru ddod mewn i'r GIG yn ystod COVID-19.
31/03/2020 E-bost a ddanfonwyd gan AaGIC at bob Hyfforddai Craidd Deintyddol, DCT a DCT TPDau am ceisiadau am Swyddi Hyfforddiant Craidd Deintyddol y DU 2020-21.
02/04/2020 Gohebiaeth gan AaGIC i ddeintyddion sylfaen a goruchwylwyr addysgol a anfonwyd ochr yn ochr â’r llythyr rhybudd coch a’r canllawiau cyfnod coch a gyhoeddwyd gan Llywodraeth Cymru ar 23 Mawrth 2020.
03/04/2020

Y canllawiau rhybudd coch diweddaraf a roddwyd i weithwyr deintyddol proffesiynol yng Nghymru gan Llywodraeth Cymru heddiw.

14/04/2020 Canllawiau ar ibuprofen a COVID-19 fel yr adolygwyd gan y Comisiwn Meddyginiaethau Dynol.
16/04/2020

Llythyr oddi wrth Richard Herbert, Deon Cysylltiol, AaGIC ynghylch taliadau Hyfforddiant Sylfaen Deintyddol (DFT). Gellir gweld manylion addasiadau i daliadau DFT yn y llythyr hwn.

20/04/2020 Mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru rydym wedi cyhoeddi canllawiau ynghylch adleoli'r gweithlu deintyddol yng Nghymru mewn ymateb i COVID-19. Cyhoeddwyd y llythyr yma gyda'r canllawiau.
20/04/2020 Mae e-bost ynghylch recriwtio hyfforddiant craidd deintyddol cenedlaethol (DCT) 2020 yn amlinellu'r broses dewisiad wedi'i haddasu mewn ymateb i COVID-19, wedi'i anfon at bob ymgeisydd DCT.
21/04/2020

Diweddariad rhaglen hyfforddi sylfaen ddeintyddol gan HEIW mewn ymateb i COVID-19.

22/04/2020 Mae'r Prif Swyddog Deintyddol wedi cyhoeddi'r pecyn cymorth gwasanaethau deintyddol gofal sylfaenol COVID-19 a anfonwyd at dimau deintyddol ochr yn ochr â'r nodyn hwn.
23/04/2020 Mae llythr gan AaGIC yn cadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi adolygu'r grant goruchwyliwr addysgol ar gyfer hyfforddwyr hyfforddiant sylfaen deintyddol a bydd yn aros ar 100%.
27/04/2020

Mae AaGIC wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Llywodraeth Cymru i ddarparu hyfforddiant ar-lein i weithwyr deintyddol proffesiynol sy'n cael eu hadleoli o fewn byrddau iechyd lleol i gefnogi'r pandemig COVID-19.

Gall ymarferwyr deintyddol cyffredinol, hyfforddeion sylfaen ddeintyddol, nyrsys deintyddol, hylenyddion deintyddol, therapyddion deintyddol gael mynediad i'r hyfforddiant yma.

Gall deintyddion sydd â phrofiad ysbyty cyfredol neu ddiweddar (hyfforddai craidd deintyddol neu'n uwch) gael mynediad i'r hyfforddiant yma.

12/05/2020 Llythyr gan Richard Herbert, Deon Cyswllt AaGIC, yn diweddaru goruchwylwyr addysgol  (ESs) ar y diweddaraf ynghylch y rhaglen hyfforddi sylfaen ddeintyddol mewn ymateb i COVID-19.
13/05/2020 Gyda'n cydweithwyr o'r pedwar corff addysg statudol (HEE, NES, HEIW ac NIMCYD) rydym wedi cyhoeddi cyngor ARCP ar gyfer hyfforddeion arbenigol deintyddiaeth ynghyd â phroses apelio ARCP deintyddol a dogfen arall gyda chodau atodol canlyniad 10.
19/05/2020

Gall cleifion gael gafael ar wybodaeth a chyngor ar broblemau ac amodau deintyddol cyffredin ar wefan GIG 111 Cymru. Diweddarwyd y tudalennau hyn i adlewyrchu'r amgylchiadau presennol a darparu gwybodaeth ychwanegol ar sut i reoli cyflyrau deintyddol cyffredin gartref.  

Gall cleifion hefyd gael gafael ar gyngor ar hunanofal gan gynnwys sut i reoli problemau deintyddol gartref a phryd i gysylltu â phractisau deintyddol i gael cyngor ar wefan Gofal Sylfaenol Un.

11/06/2020 Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y Weithdrefn Gweithredu Safonol (SOP) Cymru Gyfan ar gyfer ganolfannau deintyddol ddim yn gystilliedig â Covid-19 sy’n darparu Gweithdrefnau Cynhyrchu Aerosol (AGP) yng Nghymru ynghyd â llythyr i bob tîm deintyddol gofal sylfaenol a byrddau iechyd.
19/06/2020 Anfonodd y Prif Swyddog Deintyddol (Cymru) lythyr at yr holl bractisau deintyddol, byrddau iechyd ac Arolygiaeth Iechyd Cymru ynghylch y cynlluniau diweddaraf ar gyfer practisau deintyddol a'r symudiad o'r rhybudd Coch mewn deintyddiaeth mewn i’r cyfnod Ambr.
Fferylliaeth  
20/03/2020

Mae Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC) yn cyhoeddi cofrestriad dros dro ar gyfer fferyllwyr a thechnegwyr fferyllol sy'n dychwelyd yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus hwn. Gellir gweld cyngor i'r rheini yng Nghymru yma: https://gov.wales/returning-pharmacists-guidance

Am ddiweddariadau COVID19 rheolaidd gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol ewch i https://www.pharmacyregulation.org/contact-us/coronavirus-latest-updates

25/03/2020

Mae Canllawiau ar gyfer Fferyllwyr a Thechnegwyr Fferyllol dan hyfforddiant cyn cofrestru wedi cael eu cyhoeddi heddiw i Prif Fferyllwyr, Fferylliaeth Gymunedol Cymru, hyfforddeion cyn-gofrestru, technegwyr fferyllol cyn-gofrestru, tiwtoriaid a chyflogwyr yng Nghymru.

31/03/2020 Datganiad ar y cyd gan HEE, NES ac AaGIC hyfforddiant ac arholiadau fferyllwyr cyn-gofrestru yn ystod COVID-19.
06/04/2020 Gallwch ddod o hyd i’r cwestiynau cyffredin diweddaraf wedi’i gyhoeddi gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC) yma.
15/04/2020

Mewn ymateb i COVID-19 a'r pwysau cynyddol mewn fferyllfeydd cymunedol ac ysbytai, mae AaGIC wedi cyflwyno hyblygrwydd i'r rhaglen hyfforddi Prentisiaeth Cyn-gofrestru Technegydd Fferyllfa Fodern. Cyflwynwyd hyn yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru i gynorthwyo hyfforddeion i aros yn eu rhaglen hyfforddi yn ystod y pandemig.

Mae tîm fferylliaeth AaGIC yn cyfathrebu o bell gyda hyfforddeion yn unigol i sicrhau eu bod yn cael ei chefnogi yn effeithiol, yn cwrdd â’i anghenion penodol, i'w galluogi i barhau i symud ymlaen ar y rhaglen hyfforddi.

22/05/2020 Datganiad gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC/HEIW) ar cofrestriad dros dro o Fferyllwyr Cyn Cofrestru 2019/20.