Neidio i'r prif gynnwy

Hyfforddeion a myfyrwyr meddygol, deintyddol a fferylliaeth

Grŵp o bobl yn gwisgo masgiau

Gall staff nawr ymweld â’r ‘Porth Covid-19 Lles Staff GIG Cymru’ sy’n darparu adnoddau iechyd a lles i gefnogi staff yn ystod yr adeg anodd hon.

Gellir gweld canllawiau Offer Amddiffyn Personol (PPE) ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a dolenni cysylltiedig yma.

Y canllawiau diweddaraf i hyfforddeion a myfyrwyr meddygol, deintyddol a fferylliaeth mewn ymateb i COVID-19. Sicrhewch eich bod yn edrych ar y dogfennau diweddaraf. Bydd dogfennau nad ydynt bellach yn ddilys yn cael eu marcio fel rhai 'wedi'u harchifo' ond maent ar gael o hyd er gwybodaeth.

Dyddiad Manylion
Cyffredinol
02/09/2021 Dychwelyd ar ôl teithio i wledydd rhestr oren: canllawiau i staff iechyd a gofal cymdeithasol
03/03/2020 Mae rheoleiddwyr eisoes wedi cyhoeddicanllawiau i weithwyr iechyd a gofal proffesiynol drwy'r cyngor proffesiynau iechyd a gofal.
Meddygol  
30/09/2022

DATGANIAD SWYDD: Teitl: Datganiad ar randdirymiadau parhaus mewn addysg a hyfforddiant meddygol
Cytunwyd gan yr Athro Push Mangat Cyfarwyddwr Meddygol, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)

20/04/2021 Mae Dr Tom Lawson, Deon Meddygol Ôl-raddedig, wedi anfon diweddariad i hyfforddeion ynghyd â datganiad ar y cyd ar wyliau blynyddol, gwyliau astudio a threfniadau gwyliau cyhoeddus ar gyfer meddygon a deintyddion mewn hyfforddiant yn ystod pandemig Covid-19.
02/02/2021 Diweddariad i hyfforddeion meddygol yng Nghymru gan Dr Tom Lawson, Deon Meddygol Ôl-raddedig, Addysg a Gwella Iechyd Cymru. [wedi'u harchifo]
18/01/2021 Gyda'n cydweithwyr o'r pedwar corff addysg statudol (HEE, NES, AaGIC a NIMDTA) rydym wedi cyhoeddi diweddariad recriwtio arbenigedd 2021 ar ryddhau ymgeiswyr a meddygon mewn hyfforddiant ôl-raddedig ar gyfer recriwtio ac asesu. [wedi'u harchifo]
08/01/2021 Gyda'n cydweithwyr o'r pedwar corff addysg statudol (HEE, NES, NIMDTA a AaGIC) rydym wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer recriwtio arbenigedd 2021. [wedi'u harchifo]
08/12/2020

Llythyr gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol at Fwrdd Rhaglen Sylfaen y DU ynghylch parhad rhanddirymiad dros dro o gwricwlwm y Rhaglen Sylfaen ar gyfer dilyniant boddhaol yn ARCP. [wedi'u harchifo]

Canllawiau Adolygiad Blynyddol Rhaglen Sylfaen Sefydliad y DU ar Ddatblygiad Cymhwysedd (ARCP) - pob hyfforddai (tan fis Medi 2021). [wedi'u harchifo]

24/11/2020 Diweddariad gan y pedwar corff addysg statudol (HEE, NES, HEIW ac NIMCYD) ar galluogi dilyniant yn ARCP mewn ymateb i COVID-19. [wedi'u harchifo]
19/10/2020 Gyda phartneriaid, rydym wedi cyhoeddi ataliad dros dro COVID-19 o Asesiadau Blwyddyn olaf ond un (PYAs) ar gyfer arbenigeddau meddygol. [wedi'u harchifo]
16/10/2020 Diweddariad i hyfforddeion meddygol gan Dr Tom Lawson, Deon Meddygol Ôl-raddedig HEIW sy'n ymdrin â phynciau gan gynnwys adleoli hyfforddeion, asesiadau risg, lles a phroffesiynoldeb. Atodiadau y cyfeiriwyd atynt: Ffynonellau Cymorth ac Egwyddorion Sefydliadau Addysgol yn ystod ymchwyddiadau pandemig. [wedi'u harchifo]
24/09/2020 Gyda'n cydweithwyr o'r pedwar corff addysg statudol (HEE, NES, HEIW ac NIMCYD) rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar gynnal egwyddorion addysg a hyfforddiant meddygol Ôl-raddedig ar sefydliadau addysgol yn ystod ymchwydd pandemig. [wedi'u harchifo]
11/09/2020 Gyda'n cydweithwyr o'r pedwar corff addysg statudol (HEE, NES, HEIW ac NIMCYD) rydym wedi cyhoeddi 'Cefnogi ymateb COVID-19: Galluogi dilyniant yn ARCP - Diweddariad Medi 2020'. [wedi'u harchifo]
10/06/2020 Mae Llwyodraeth Cymru, Cyflogwyr GIG Cymru, BMA Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi cyhoeddi 

datganiad ar y cyd ar wyliau blynyddol, absenoldeb astudio a threfniadau gwyliau cyhoeddus ar gyfer meddygon a deintyddion dan hyfforddiant yn ystod pandemig Covid-19.  [wedi'u harchifo]

04/06/2020 Ynghyd â Phrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe, mae Addysg a Iechyd Gwella Cymru wedi cyhoeddi egwyddorion ar gyfer ailgychwyn addysg feddygol. [wedi'u harchifo]
29/05/2020 Canllawiau i hyfforddeion meddygon teulu o Goleg Brenhinol y Meddygon Teulu ar yr Asesiad Ymgynghori a Gofnodwyd yn lle'r Asesiad Sgiliau Clinigol yn ystod Covid-19. Mae Cwestiynau Cyffredin Asesiad Ymgynghori a Gofnodwyd hefyd ar gael. [wedi'u harchifo]
27/05/2020 Gyda'n cydweithwyr o'r pedwar corff addysg statudol (HEE, NES, HEIW ac NIMCYD) rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar weithredu canlyniadau ARCP 10.1 a 10.2 yn ystod COVID-19. [wedi'u harchifo]
12/05/2020 Rydym wedi cyhoeddi canllawiau i hyfforddwyr a hyfforddeion ynghylch trefniadau dros dro ar gyfer cynnal apeliadau i ganlyniadau ARCP. [wedi'u harchifo]
07/05/2020 Pedwerydd argraffiad Clwb Cyfnodolion Cymunedol Covid-19 o'r Ysgol Feddygaeth, Prifysgol Caerdydd. Adolygiad o lenyddiaeth ar Covid-19 a fydd yn ddefnyddiol i hyfforddeion meddygol. [wedi'u harchifo]
30/04/2020 Canllawiau i hyfforddeion sylfaen feddygol ar gwblhau'r adran Amser Allan o Hyfforddiant (TOOT) ar Ffurflen R mewn ymateb i Covid-19. [wedi'u harchifo]
30/04/2020 Trydydd argraffiad Clwb Cyfnodolion Cymunedol Covid-19 o'r Ysgol Feddygaeth, Prifysgol Caerdydd. Adolygiad o lenyddiaeth ar Covid-19 a fydd yn ddefnyddiol i hyfforddeion meddygol. [wedi'u harchifo]
29/04/2020 Gyda'n cydweithwyr o'r pedwar corff addysg statudol (HEE, NES, HEIW ac NIMCYD) rydym wedi cyhoeddi llythyr i hyfforddeion a hyfforddwyr meddygaeth teulu ar ein hymdrechion i fynd i'r afael â'r materion cyfredol i hyfforddeion yn eu blwyddyn olaf o hyfforddiant arbenigedd MT. [wedi'u harchifo]
23/04/2020 Ail argraffiad Clwb Cyfnodolion Cymunedol Covid-19 o'r Ysgol Feddygaeth, Prifysgol Caerdydd. Adolygiad o lenyddiaeth ar Covid-19 a fydd yn ddefnyddiol i hyfforddeion meddygol. [wedi'u harchifo]
20/04/2020 Canllawiau gan y pedwar corff addysg statudol (HEE, NES, HEIW ac NIMCYD) ar galluogi dilyniant yn ARCP mewn ymateb i COVID-19. [wedi'u harchifo]
08/04/2020 Canllawiau gan y pedwar corff addysg statudol (HEE, NES, HEIW ac NIMCYD) - 'Cefnogi yr ymateb i COVID-19: Cynlluniau ar gyfer Rheolaeth Cylchdroadau Hyfforddiant Meddygol' - yn fis Mai, Mehefin a Gorffennaf. [wedi'u harchifo]
06/04/2020 Mae cyfarwyddwr meddygol o'r pedwar corff addysg statudol (HEE, NES, HEIW ac NIMCYD) wedi cyhoeddi llythyr i hyfforddeion a hyfforddai meddygol ynghyd â chanllawiau ar reoli’r proses ARCP. [wedi'u harchifo]
01/04/2020 Datganiad a gyhoeddwyd gan y cyd-bwyllgor ar hyfforddiant llawfeddygol (JCST) ar COVID-19 ar dilyniant hyfforddeion yn 2020. [wedi'u harchifo]
01/04/2020

Gall hyfforddeion nawr ymweld â platfform canllawiau ysbytai COVID19 Cymru gyfan. Mae'r canllawiau wedi'i fandadu i'w ddefnyddio ym mhob ysbyty ledled Cymru, ac mae'n rhoi mynediad i:

  • Copi digidol o'r canllaw gyda diweddariadau a newidiadau cyngor
  • Llu o fideos addysgol GIG Cymru wedi'u cyflwyno gan arbenigwyr o Gymru
  • Adnoddau perthnasol eraill

[wedi'u harchifo]

01/04/2020 Diweddariad a anfonwyd gan yr Uned Cymorth Ailddilysu yn AaGIC at bob meddyg teulu yng Nghymru trwy MARS ynghylch arfarniadau meddygol ac ailddilysu. [wedi'u harchifo]
30/03/2020 Gyda'n cydweithwyr o'r pedwar corff addysg statudol (HEE, NES, HEIW a NIMDTA) gwnaethom gyhoeddi'r cynlluniau hyn ar gyfer recriwtio arbenigedd. [wedi'u harchifo]
26/03/2020 Canllawiau gan AaGIC ar gyfer hyfforddeion sydd ag unrhyw ymholiadau yn ymwneud â thu allan i’r rhaglen, hyfforddiant llai na llawn amser (LTFT) ac absenoldeb rhieni mewn perthynas â’r achos COVD-19. [wedi'u harchifo]
25/03/2020 Datganiad ar y cyd gan Adrannau Iechyd y DU, y Cyngor Meddygol Cyffredinol, Addysg Iechyd Lloegr, Addysg GIG yr Alban, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Asiantaeth Hyfforddiant Meddygol a Deintyddol Gogledd Iwerddon, a'r Cyngor Ysgolion Meddygol.  Mae'n nodi'r dull gweithredu ar gyfer y DU gyfan rydym wedi cytuno i hwyluso'r cofrestriad dros dro cynnar fel meddygon o fyfyrwyr meddygol blwyddyn olaf addas ar ôl iddynt raddio, a'r cofrestriad llawn cynnar o feddygon Blwyddyn 1 Sylfaen addas. [wedi'u harchifo]
19/03/2020 Cyhoeddwyd canllawiau  gyda'r tri chorff addysg statudol arall yn y DU, Academi'r Colegau Brenhinol Meddygol, y Cyngor Meddygol Cyffredinol a COPMEDmewn perthynas ag arholiadau i feddygon dan hyfforddiant yn ystod achos COVID-19. [wedi'u harchifo]
19/03/2020 Canllawiau a gyhoeddwyd gyda'r tri chorff addysg statudol arall yn y DU ynghylch addasu'r asesiad o Ddilyniant yr Adolygiad Blynyddol o Gymhwysedd yn ystod achos COVID-19. [wedi'u harchifo]
17/03/2020 Oherwydd y datblygiadau diweddar mewn perthynas â phellterau cymdeithasol, mae penderfyniad wedi'i wneud gan y pedwar corff addysg statudol (HEE, NES, AaGIC ac NIMCYD) i ganslo'r holl gyfweliadau recriwtio arbenigol wyneb yn wyneb ar unwaith.Ar gyfer yr holl recriwtio sydd i'w gynnal yng Nghymru, mae'r recriwtiwr arweiniol yn anfon llythyr yn uniongyrchol at ymgeiswyr. [wedi'u harchifo]

17/03/2020

Cwestiynau wedi'i ddiweddaru 05/11/2020

Gallwch weld y cwestiynau cyffredin diweddaraf i hyfforddeion meddygol yma.Daliwch ati i edrych yn ôl yma gan y byddwn yn ei diweddaru pan fydd gwybodaeth newydd ar gael. [wedi'u harchifo]
16/03/2020 Gyda'n cydweithwyr o'r pedwar corff addysg statudol (HEE, NES, AaGIC ac NIMCYD) a'r GMC fe wnaethom gyhoeddi'r cynlluniau hyn ar gyfer rheoli cylchdroadau hyfforddiant meddygol yn ystod cyfnod oedi'r argyfwng iechyd cyhoeddus presennol. Yn ogystal, rydym yn datblygu cwestiynau cyffredin i gefnogi hyfforddeion yn ystod y cyfnod hwn. [wedi'u harchifo]
10/03/2020 Gyda'n cydweithwyr o'r pedwar corff addysg statudol (HEE, NES, HEIW ac NIMCYD) rydym wedi cyhoeddi y canllaw yma yn arbennig i hyfforddeion [wedi'u harchifo]
  Mae ein Huned Cymorth Proffesiynol yma i gefnogi hyfforddeion yn ystod yr amser heriol hwn. Cysylltwch â’r uned i gael cyfarfod un i un (dros y ffôn/Skype) I drafod unrhyw heriau yr ydych yn wynebu. E-bostiwch HEIW.professionalsupport@wales.nhs.uk neu os yw ar frys ffoniwch Leona Walsh ar 07900191933 [wedi'u harchifo]
Deintyddol  
21/05/2021 Rydym wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd ag Addysg Iechyd Lloegr (HEE) ac Asiantaeth Hyfforddiant Meddygol a Deintyddol Gogledd Iwerddon (NIMDTA) ynghylch recriwtio Hyfforddiant Sylfaenol Deintyddol 2020/21.
20/04/2021 Rydym wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd ag Health Education England (HEE), Asiantaeth Hyfforddiant Meddygol a Deintyddol Gogledd Iwerddon (NIMDTA), a'r Cyngor Ysgolion Deintyddol (DSC) ar hyfforddiant sylfaen ddeintyddol.
20/04/2021 Mae Dr Tom Lawson, Deon Meddygol Ôl-raddedig, wedi anfon diweddariad i hyfforddeion ynghyd â datganiad ar y cyd ar wyliau blynyddol, gwyliau astudio a threfniadau gwyliau cyhoeddus ar gyfer meddygon a deintyddion mewn hyfforddiant yn ystod pandemig Covid-19.
19/04/2021 Rydym wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd ag Health Education England (HEE), Asiantaeth Hyfforddiant Meddygol a Deintyddol Gogledd Iwerddon (NIMDTA), a'r Cyngor Ysgolion Deintyddol (DSC) ar hyfforddiant sylfaen ddeintyddol.
11/11/2020 Gyda phartneriaid ar draws y pedair gwlad rydym wedi cyhoeddi llythyr at yr holl weithwyr deintyddol proffesiynol ar gefnogi'r proffesiwn deintyddol trwy gydol yr ail don COVID-19.
19/06/2020 Anfonodd y Prif Swyddog Deintyddol (Cymru) lythyr at yr holl bractisau deintyddol, byrddau iechyd ac Arolygiaeth Iechyd Cymru ynghylch y cynlluniau diweddaraf ar gyfer practisau deintyddol a'r symudiad o'r rhybudd Coch mewn deintyddiaeth mewn i’r cyfnod Ambr.
11/06/2020 Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y Weithdrefn Gweithredu Safonol (SOP) Cymru Gyfan ar gyfer ganolfannau deintyddol ddim yn gystilliedig â Covid-19 sy’n darparu Gweithdrefnau Cynhyrchu Aerosol (AGP) yng Nghymru ynghyd â llythyr i bob tîm deintyddol gofal sylfaenol a byrddau iechyd.
13/05/2020 Gyda'n cydweithwyr o'r pedwar corff addysg statudol (HEE, NES, HEIW ac NIMCYD) rydym wedi cyhoeddi cyngor ARCP ar gyfer hyfforddeion arbenigol deintyddiaeth ynghyd â phroses apelio ARCP deintyddol a dogfen arall gyda chodau atodol canlyniad 10.
12/05/2020 Llythyr gan Richard Herbert, Deon Cyswllt AaGIC, yn diweddaru goruchwylwyr addysgol  (ESs) ar y diweddaraf ynghylch y rhaglen hyfforddi sylfaen ddeintyddol mewn ymateb i COVID-19.
27/04/2020

Mae AaGIC wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Llywodraeth Cymru i ddarparu hyfforddiant ar-lein i weithwyr deintyddol proffesiynol sy'n cael eu hadleoli o fewn byrddau iechyd lleol i gefnogi'r pandemig COVID-19.

22/04/2020 Mae'r Prif Swyddog Deintyddol wedi cyhoeddi'r pecyn cymorth gwasanaethau deintyddol gofal sylfaenol COVID-19 a anfonwyd at dimau deintyddol ochr yn ochr â'r nodyn hwn.
21/04/2020 Diweddariad rhaglen hyfforddi sylfaen ddeintyddol gan HEIW mewn ymateb i COVID-19.
20/04/2020 Mae e-bost ynghylch recriwtio hyfforddiant craidd deintyddol cenedlaethol (DCT) 2020 yn amlinellu'r broses dewisiad wedi'i haddasu mewn ymateb i COVID-19, wedi'i anfon at bob ymgeisydd DCT.
20/04/2020 Mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru rydym wedi cyhoeddi canllawiau ynghylch adleoli'r gweithlu deintyddol yng Nghymru mewn ymateb i COVID-19. Cyhoeddwyd y llythyr yma gyda'r canllawiau.
16/04/2020 Llythyr oddi wrth Richard Herbert, Deon Cysylltiol, AaGIC ynghylch taliadau Hyfforddiant Sylfaen Deintyddol (DFT). Gellir gweld manylion addasiadau i daliadau DFT yn y llythyr hwn.
14/04/2020 Canllawiau ar ibuprofen a COVID-19 fel yr adolygwyd gan y Comisiwn Meddyginiaethau Dynol.
03/04/2020 Y canllawiau rhybudd coch diweddaraf a roddwyd i weithwyr deintyddol proffesiynol yng Nghymru gan Llywodraeth Cymru heddiw.
02/04/2020 Gohebiaeth gan AaGIC i ddeintyddion sylfaen a goruchwylwyr addysgol a anfonwyd ochr yn ochr â’r llythyr rhybudd coch a’r canllawiau cyfnod coch a gyhoeddwyd gan Llywodraeth Cymru ar 23 Mawrth 2020.
31/03/2020 E-bost a ddanfonwyd gan AaGIC at bob Hyfforddai Craidd Deintyddol, DCT a DCT TPDau am ceisiadau am Swyddi Hyfforddiant Craidd Deintyddol y DU 2020-21.
31/03/2020 Mae AWFDCPs wedi cynhyrchu cwestiynau cyffredin ar gyfer DCPs ar gyfer DCPs yng Nghymru.
31/03/2020 Llythyr gan AaGIC ar hwyluso cyfleoedd adleoli i dimau deintyddol yng Nghymru ddod mewn i'r GIG yn ystod COVID-19.
27/03/2020 Mae’r wybodaeth ganlynol ar gyfer gweithwyr gofal iechyd yng Nghymru wedi’i hafnon at yr holl hyfforddeion Hyfforddiant Arbenigol Deintyddol, cyfarwyddwr rhaglenni hyfforddi a goruchwylwyr addysgol.
25/03/2020 COVID-19 Cwestiynau Cyffredin ar gyfer Deintyddol Creiddiol ac Arbenigedd Deintyddol wedi'u hanfon at hyfforddeion Deintyddol Creiddiol ac Arbenigedd, eu Goruchwylwyr Addysgol a Chyfarwyddwyr Rhaglenni Hyfforddi.
24/03/2020 Anfonwyd llythyr heddiw at Oruchwylwyr Addysg Ddeintyddol ynghylch y trefniadau ar gyfer Hyfforddiant Sylfaen Ddeintyddol mewn ymateb i COVID-19.
23/03/2020 Llythyr wedi'i anfon at yr holl dimau deintyddol gofal sylfaenol yng Nghymru ar 23/03/2020 gan Colette Bridgman, y Prif Swyddog Deintyddol a chanllawiau ategol.
23/03/2020 Cyhoeddi datganiad ar y cyd ar drefniadau ar gyfer myfyrwyr proffesiynol ym maes gofal deintyddol a deintyddol a graddedigion diweddar, tra bod cyfyngiadau ar waith i reoli lledaeniad COVID-19.
17/03/2020 Gyda'r pedwar corff addysg statudol HEE, NES, AaGIC, NIMCYD, (SEBau) rydym wedi cyhoeddi canllawia i gyflogwyr gofal sylfaenol, hyfforddwyr a hyfforddeion ynghylch rheoli addysg a hyfforddiant deintyddol yn ystod yr argyfwng presennolym maes iechyd y cyhoedd.
  Mae ein Huned Cymorth Proffesiynol yma i gefnogi hyfforddeion yn ystod yr amser heriol hwn. Cysylltwch â’r uned i gael cyfarfod un i un (dros y ffôn/Skype) I drafod unrhyw heriau yr ydych yn wynebu. E-bostiwch HEIW.professionalsupport@wales.nhs.uk neu os yw ar frys ffoniwch Leona Walsh ar 07900191933
Fferylliaeth  
12/2020 Datganiad sefyllfa ar leoli myfyrwyr israddedig fferylliaeth yn ystod Hydref 2020 i Wanwyn 2021 o Addysg Iechyd Lloegr, Addysg GIG yr Alban, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Cyngor Ysgolion Fferylliaeth, y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol a Chymdeithas Myfyrwyr Fferyllol Prydain.
22/05/2020 Datganiad gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC/HEIW) ar cofrestriad dros dro o Fferyllwyr Cyn Cofrestru 2019/20.
23/04/2020 Y cwestiynau cyffredin diweddaraf mewn ymateb i COVID-19 ar gyfer technegwyr fferylliaeth cyn-gofrestru a wedi'i cofrestru a gyhoeddwyd gan AaGIC.
15/04/2020

Mewn ymateb i COVID-19 a'r pwysau cynyddol mewn fferyllfeydd cymunedol ac ysbytai, mae AaGIC wedi cyflwyno hyblygrwydd i'r rhaglen hyfforddi Prentisiaeth Cyn-gofrestru Technegydd Fferyllfa Fodern. Cyflwynwyd hyn yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru i gynorthwyo hyfforddeion i aros yn eu rhaglen hyfforddi yn ystod y pandemig.

Mae tîm fferylliaeth AaGIC yn cyfathrebu o bell gyda hyfforddeion yn unigol i sicrhau eu bod yn cael ei chefnogi yn effeithiol, yn cwrdd â’i anghenion penodol, i'w galluogi i barhau i symud ymlaen ar y rhaglen hyfforddi.

09/04/2020 Canllawiau ar hwyluso’r broses o leoli myfyrwyr fferyllol israddedig i gefnogi’r gweithlu fferylliaeth mewn ymateb i COVID-19. 
06/04/2020 Gallwch ddod o hyd i’r cwestiynau cyffredin diweddaraf wedi’i gyhoeddi gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC) yma.

06/04/2020

Cwestiynau wedi'i ddiweddaru 21/04/2020

cwestiynau cyffredin diweddaraf mewn ymateb i COVID-19 ar gyfer fferyllwyr cyn-gofrestru dan hyfforddiant yng Nghymru a gyhoeddwyd gan AaGIC.
31/03/2020 Datganiad ar y cyd gan HEE, NES ac AaGIC hyfforddiant ac arholiadau fferyllwyr cyn-gofrestru yn ystod COVID-19.
25/03/2020 Mae Canllawiau ar gyfer Fferyllwyr a Thechnegwyr Fferyllol dan hyfforddiant cyn cofrestru wedi cael eu cyhoeddi heddiw i Prif Fferyllwyr, Fferylliaeth Gymunedol Cymru, hyfforddeion cyn-gofrestru, technegwyr fferyllol cyn-gofrestru, tiwtoriaid a chyflogwyr yng Nghymru.
20/03/2020

Mae Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC) yn cyhoeddi cofrestriad dros dro ar gyfer fferyllwyr a thechnegwyr fferyllol sy'n dychwelyd yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus hwn. Gellir gweld cyngor i'r rheini yng Nghymru yma: https://gov.wales/returning-pharmacists-guidance

Am ddiweddariadau COVID19 rheolaidd gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol ewch i https://www.pharmacyregulation.org/contact-us/coronavirus-latest-updates

  Mae ein Huned Cymorth Proffesiynol yma i gefnogi hyfforddeion yn ystod yr amser heriol hwn. Cysylltwch â’r uned i gael cyfarfod un i un (dros y ffôn/Skype) I drafod unrhyw heriau yr ydych yn wynebu. E-bostiwch HEIW.professionalsupport@wales.nhs.uk neu os yw ar frys ffoniwch Leona Walsh ar 07900191933