Neidio i'r prif gynnwy

Addysgwyr nyrsio, bydwreigiaeth a proffesiynau perthynol i iechyd

Female doctor smiling

Gall staff nawr ymweld â’r ‘Porth Covid-19 Lles Staff GIG Cymru’ sy’n darparu adnoddau iechyd a lles i gefnogi staff yn ystod yr adeg anodd hon.

Gellir gweld canllawiau Offer Amddiffyn Personol (PPE) ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a dolenni cysylltiedig yma.

Y canllawiau diweddaraf i hyfforddwyr, addysgwyr a chyflogwyr nyrsio, bydwreigiaeth a proffesiynau perthynol i iechyd mewn ymateb i COVID-19. Sicrhewch eich bod yn edrych ar y dogfennau diweddaraf. Bydd dogfennau nad ydynt bellach yn ddilys yn cael eu marcio fel rhai 'wedi'u harchifo' ond maent ar gael o hyd er gwybodaeth.

Date Details
Nyrsio a Bydwreigiaeth
22/03/2021 Datganiad sefyllfa gan Llywodraeth Cymru a Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn cadarnhau mynediad unigol myfyrwyr gofal iechyd i frechiad COVID-19 yn unol ag amserlennu grwpiau blaenoriaeth.
25/01/2021 Mae AaGIC wedi cyhoeddi Cwestiynau Cyffredin Covid-19 wedi’u diweddaru ynghylch myfyrwyr nyrsio, bydwreigiaeth, proffesiynau perthynol i iechyd a gwyddorau gofal iechyd cyn-cofrestru – canllaw i fyfyrwyr, goruchwylwyr ymarfer, addysgwyr ac aseswyr (Ionawr 2021). 
15/12/2020 Adroddiad Cryno Arolwg Myfyrwyr AaGIC.
06/11/2020 Myfyriwr Gofal Iechyd Cymru Gyfan PACT: Cefnogi mynediad diogel myfyrwyr gofal iechyd i amgylcheddau dysgu ymarfer yn ystod cyflyrau pandemig.
06/10/2020 Mae AaGIC wedi cyhoeddi COVID-19 Archwiliad Addysgol Dros Dro o'r Amgylchedd Dysgu wrth Ymarfer.
18/09/2020 Datganiad sefyllfa gan Llywodraeth Cymru ac AaGIC yn cadarnhau bod gan fyfyrwyr meddygol, nyrsio, bydwreigiaeth, proffesiynau perthynol i iechyd a gwyddor gofal iechyd statws gweithiwr allweddol parhaus wrth gyflawni lleoliadau ymarfer fel rhan o'u rhaglen ddysgu.
18/09/2020 Mae AaGIC wedi cyhoeddi Egwyddorion Adfer Lleoliadau COVID-19 Cymru Gyfan yn cynnwys y Pasport Cymru Gyfan ar gyfer dychwelyd yn ddiogel i leoliad.
09/06/2020 Covid-19 Cwestiynau Cyffredin yn ymwneud â myfyrwyr nyrsio a bydwreigiaeth - canllaw ar gyfer goruchwylwyr ymarfer ac aseswyr.
20/04/2020 Gall nyrsys a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd ddefnyddio ein porth ‘Adnoddau hyfforddi COVID-19 i nyrsys a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd’ sydd yn cynnwys hyfforddiant ar ddirprwyo, adleoli i leoliadau clinigol, gofal critigol ac adnoddau i gefnogi’ch lles yn ystod yr amser heriol hwn.
09/04/2020 Mae’r canllawiau yma gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) yn nodi’r hyn y mae angen i gyflogwyr ei wybod am weithwyr proffesiynol sydd wedi ymuno â chofrestr dros dro COVID-19, yn ogystal â sut mae COVID-19 wedi effeithio ar brosesau’r NMC o amgylch gweithwyr proffesiynol ar ein cofrestr barhaol. 
30/03/2020 Papur briffio a gyhoeddwyd gan AaGIC ar gyfer Partneriaid Ymarfer, Arweinwyr Addysg, Hwyluswyr Addysg Ymarfer (a rolau cyfatebol) yn ystod cyfnod COVID-19. [Wedi'u harchifo]
30/03/2020 Llythyr gan AaGIC at ddeoniaid a phenaethiaid rhaglenni cyn-cofrestru nyrsio ynghylch myfyrwyr nyrsio sy’n gwirfoddoli yn y system iechyd a gofal i frwydro yn erbyn COVID-19. [Wedi'u harchifo]
25/03/2020 Mae'r NMC wedi cyhoeddi datganiad ynglŷn â chyfraniad myfyrwyr nyrsio nad ydynt yn chwe mis olaf eu rhaglen. Yr ydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar sut y gallwn weithredu hyn yng Nghymru. [Wedi'u harchifo]
19/03/20 Datganiad ar y cyd ar ehangu'r gweithlu bydwreigiaeth yn ystod achos Covid-19 gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC).
19/03/20 Datganiad ar y cyd ar ehangu'r gweithlu nyrsio yn ystod achos Covid-19 gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC). [Wedi'u harchifo]
12/03/20 Cytunwyd ar y cyd i nyrsys a bydwragedd ac fe'i hanfonwyd o dan y teitl 'Cefnogi Nyrsys a Bydwragedd ar draws y DU a Nyrsys Cysylltiol (Lloegr yn unig) os ceir epidemig COVID-19 yn y DU'.
Proffesiynau Perthynol i Iechyd a Gwyddonwyr Gofal Iechyd
02/09/2021 Dychwelyd ar ôl teithio i wledydd rhestr oren: canllawiau i staff iechyd a gofal cymdeithasol
22/03/2021 Datganiad sefyllfa gan Llywodraeth Cymru a Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn cadarnhau mynediad unigol myfyrwyr gofal iechyd i frechiad COVID-19 yn unol ag amserlennu grwpiau blaenoriaeth.
25/01/2021 Mae AaGIC wedi cyhoeddi Cwestiynau Cyffredin Covid-19 wedi’u diweddaru ynghylch myfyrwyr nyrsio, bydwreigiaeth, proffesiynau perthynol i iechyd a gwyddorau gofal iechyd cyn-cofrestru – canllaw i fyfyrwyr, goruchwylwyr ymarfer, addysgwyr ac aseswyr (Ionawr 2021). 
11/10/2020 Datganiad sefyllfa gan Llywodraeth Cymru a AaGIC yn cadarnhau bod gan fyfyrwyr optometreg israddedig statws gweithiwr allweddol parhaus wrth ymgymryd â hyfforddiant sgiliau clinigol fel rhan o'u rhaglen ddysg.
20/04/2020 Gall nyrsys a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd ddefnyddio ein porth ‘Adnoddau hyfforddi COVID-19 i nyrsys a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd’ sydd yn cynnwys hyfforddiant ar ddirprwyo, adleoli i leoliadau clinigol, gofal critigol ac adnoddau i gefnogi’ch lles yn ystod yr amser heriol hwn.
09/04/2020 Rydym wedi datblygu Canllawiau Cymorth Cyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal i Weithwyr Proffesiynol Rheoledig Perthynol i Iechyd a Myfyrwyr Gwyddor Gofal Iechyd PTP dros gyfnod haint COVID-19 i gefnogi myfyrwyr proffesiynol perthynol i iechyd a myfyrwyr gwyddoniaeth gofal iechyd wedi’i rheoli gan yr HCPC ar sut gallent gefnogi’r system iechyd a gofal yn ystod yr argyfwng hwn.
23/03/2020 Datganiad gan AaGIC, Cyngor Deoniaid Iechyd Cymru, Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau'r GIG-Cyfarwyddwyr Therapïau a Gwyddorau Gofal Iechyd a NWSSP – Gwasanaethau Cyflogaeth ar 'Recriwtio pob myfyriwr AHP a gwyddor gofal iechyd sy'n graddio yn yr haf 2020.'