Bu Tina yn Gyfarwyddwr y Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru ers 2004; mae’n nyrs gofrestredig, sydd hefyd wedi’i hyfforddi fel bydwraig, ac mae wedi cwblhau hyfforddiant arbenigol ym maes gofal y galon, gofal lliniarol ac addysgu clinigol/addysgu.
Mae Tina wedi cael swyddi uwch reoli yn y GIG, ym maes Addysg Uwch, ac wedi gweithio yn Llywodraeth Cynulliad Cymru fel Swyddog Nyrsio, gan gynghori ar bolisi iechyd a nyrsio, rheoleiddio, adnoddau dynol, ymchwil, ac addysg.
Mae Tina yn Gymrawd anrhydeddus Prifysgol De Cymru, ac yn Gymrawd y Coleg Brenhinol.