Mae Cydraddoldeb Strategol Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn nodi’r cyfeiriad i gryfhau dull AaGIC wrth hyrwyddo cydraddoldeb, dileu gwahaniaethu a meithrin cysylltiadau da rhwng y rhai sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad ydynt. Bydd y Grŵp Hyrwyddo Cydraddoldeb mewn Hyfforddiant (AEiT) yn ystyried unrhyw faterion sy'n ymwneud â sicrhau cyfle a chyrhaeddiad cyfartal o ran myfyrwyr a hyfforddeion sy'n ymgymryd â hyfforddiant a gomisiynwyd ac a ddarperir gan AaGIC ac yn adrodd ac yn gwneud argymhellion i'r Grŵp Llywio Amrywiaeth a Chynhwysiant Cydraddoldeb (EDI), Gweithredwyr a Bwrdd AaGIC. Nid yw'r grŵp yn cyfyngu gweithgarwch i fyfyrwyr a hyfforddeion sydd â nodweddion gwarchodedig ond mae'n ymestyn i ymrwymiadau AaGIC o fewn Deddf Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol 2015, gan gynnwys y rhai a allai wynebu anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol.
Nodau ac amcanion
- Gweithredu fel eiriolwyr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sy'n dylanwadu, gwella a hyrwyddo'r agenda ar draws grwpiau rhanddeiliaid a'r gymuned hyfforddi.
- Gwrando ac ymateb i farn a gwybodaeth a derbyniwyd mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant gan y gymuned hyfforddi ehangach sy'n adrodd am faterion neu bryderon allweddol.
- Cadw i fyny â mentrau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant o ran addysg a hyfforddiant lleol ac ar draws y DU.
- Datblygu a sicrhau bod adnoddau ar gael i godi ymwybyddiaeth o risgiau a materion a mynd i'r afael â nhw wrth sicrhau cydraddoldeb o ran cyfleoedd mewn hyfforddiant.
- Datblygu, monitro ac adolygu rhaglen o weithgarwch i nodi unrhyw fylchau mewn gwahanol feysydd addysg a hyfforddiant iechyd gan gyfeirio at:
- Ymwared ag anffafriaeth, aflonyddwch, erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall a waherddir gan y Ddeddf neu sydd dan ei grym.
- Hyrwyddo cyfleoedd cyfartal ymysg pobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad ydynt.
- Meithrin perthnasau adeiladol rhwng unigolion sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig ac unigolion nad ydynt.
- Casglu, cwestiynu ac ystyried data ansoddol a meintiol perthnasol a allai ymddwyn fel tystiolaeth a mynd i'r afael â bylchau neu gau’r bylchau hyn.
- Adnabod a rhannu arfer da ar draws AaGIC, Byrddau Iechyd a sefydliadau partner mewn perthynas â Agenda Hyrwyddo Cydraddoldeb mewn Hyfforddiant (AEiT).
- Adolygu polisïau/ymyriadau presennol a gwneud penderfyniadau ar gamau i'w cymryd i fynd i'r afael ag unrhyw ddiffygion / bylchau yn y maes hwn.