Mae nifer cynyddol o weithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru yn cymryd amser i ffwrdd o hyfforddiant am wahanol resymau. Gall hyn gynnwys ffactorau personol fel absenoldeb rhiant, cyfrifoldebau gofalu, a salwch, neu ar gyfer datblygiad proffesiynol fel datblygiad gyrfa ac ymchwil.
Er mwyn darparu ar gyfer profiad pawb yn ystod cyfnod allan o hyfforddiant, argymhellir dull unigol, tosturiol a chefnogol o ddychwelyd. Awgrymwn fod hyfforddwyr yn cyfarfod â phob hyfforddai un i un cyn iddynt ddychwelyd.
Mae hyn yn rhoi cyfle i ystyried:
Ar ôl dychwelyd, rydym yn argymell bod hyfforddwyr yn cyfarfod â'r hyfforddai'n rheolaidd i fonitro cynnydd a chymorth.
Mae'r arweiniad hwn wedi'i ddatblygu ar gyfer meddygon dan hyfforddiant yng Nghymru. Mae AaGIC yn y broses o ddatblygu canllawiau ar gyfer dychwelyd i'r gwaith ar gyfer yr holl weithwyr gofal iechyd proffesiynol dan hyfforddiant.
Mae'r arweiniad hwn wedi'i ddatblygu i gefnogi meddygon dan hyfforddiant a'u hyfforddwyr trwy gynnig arweiniad ac adnoddau i gefnogi unigolion ar eu profiad o ddychwelyd i hyfforddiant.
Mae'r ffurflenni hyn yn hwyluso trafodaeth rhwng y meddyg dan hyfforddiant a'u hyfforddwyr ynghylch y cymorth a ragwelir a'r cymorth posibl y bydd ei angen ar ôl dychwelyd i hyfforddiant.
Mae'r tair ffurflen ar gael o fewn yr un ddogfen.
Mae cymorth ar gael gan yr Uned Cymorth Proffesiynol (PSU) sydd â chyfoeth o brofiad ac sy'n gallu cynnig arweiniad ychwanegol gyda'r broses hon.
Gweminar PSU ‘codi hyder wrth ddychwelyd i hyfforddiant’ ar ddod yn fuan.