Trwy'r Uned Cymorth Broffesiynol (PSU) mae gennych fynediad i:
Yn ogystal â gweminarau sydd ar gael ar ein system e-ddysgu, Y Ty Dysgu, cynhelir gweithdai bedair gwaith y flwyddyn (cysylltwch â ni am ddyddiadau).
Os oes angen i chi ailsefyll arholiadau dro ar ôl tro neu'n cael trafferth gyda'ch e-bortffolio a rheoli blaenoriaethau, gallwn ddarparu mynediad i sgrinio dyslecsia QuickScan. Cysylltwch â ni a gallwn drafod opsiynau cymorth.
Rydym yn argymell cysylltu â ni ar ddechrau eich adolygiad fel y gallwn eich cefnogi'n iawn. Mae hyn chwech i naw mis cyn eich arholiad.
Fodd bynnag, os ydych wedi dechrau adolygu ac yr hoffech gael cymorth, rhaid i chi gysylltu â ni o leiaf 15 wythnos cyn eich arholiad.
Os sylwch ar fylchau mewn gwybodaeth neu sgiliau clinigol, dylech ofyn i'ch goruchwyliwr addysgol neu glinigol am gyfleoedd datblygu y gallai fod eu hangen arnoch.
Cysylltwch â'r PSU drwyHEIW.professionalsupport@wales.nhs.uk.