Manylir ar yr opsiynau cofrestru isod.
Presenoldeb yn bersonol
Dydd Gwener, 2 il Rhagfyr 2022 — 09:00 — 16:00
Canolfan Gynadledda Rhyngwladol Cymru (ICC) Cymru, Casnewydd
Bydd y gynhadledd Gwella Ansawdd (QI) hon ar thema Nadoligaidd yn darparu digwyddiad dysgu a rhannu i bob unigolyn dan hyfforddiant, hyfforddwyr ac aelodau eraill o dimau amlddisgyblaethol ledled Cymru. Bydd y gynhadledd hefyd yn rhoi cyfle i gynrychiolwyr rwydweithio â chanolfannau gwella lleol a phobl eraill o'r un anian sy'n ymgysylltu â QI yng Nghymru. Bydd y digwyddiad yn darparu digon o amser ar gyfer rhwydweithio, wedi'i atalnodi gan sesiynau llawn (am) a gweithdai â ffocws a hwylusir gan arbenigwyr QI (pm). Mae cyfle hefyd i arddangos peth o'r gwaith QI rhagorol sydd eisoes ar y gweill ledled Cymru drwy'r sesiynau cyflwyno posteri.
Gellir cyrchu’r rhaglen lawn yma
Croesewir ac anogir siwmperi Nadolig!
I gofrestru ar gyfer presenoldeb wyneb yn wyneb, dilynwch y ddolen isod:
https://www.eventbrite.co.uk/e/429679201057
Presenoldeb rhithwir
Dydd Gwener, 2il Rhagfyr 2022 — 09:30 — 12:30
Ar-lein
Bydd y gynhadledd QI hon ar thema Nadoligaidd yn darparu digwyddiad dysgu a rhannu i bob unigolyn dan hyfforddiant, hyfforddwyr ac aelodau eraill o dimau amlddisgyblaethol ledled Cymru. Bydd presenoldeb rhithwir yn rhoi cyfle i wylio ein sesiwn bore llawn a fydd yn cael eu ffrydio'n fyw. Ni fydd y gweithdai ar gael yn rhithwir. Os hoffech gofrestru ar gyfer presenoldeb rhithwir, gallwch wneud hynny isod.
https://www.eventbrite.co.uk/e/429682360507
Gellir cyrchu’r rhaglen lawn yma, lle cewch fanylion ac amserau ar gyfer pob un o'r sesiynau llawn a drefnwyd.