Mae cyflawni sgil syml mewn amgylchedd sydd o dan bwysau mawr yn gallu bod yn her i bawb. Felly sut y gallwn sicrhau ein bod yn gwneud y gwaith gorau posibl?
Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae Dr Mark Stacey, Anesthetydd Ymgynghorol a Deon Cyswllt Mentrau Newydd, wedi ceisio datblygu ffyrdd gwell i hyfforddi (gan gydweithio â seicolegydd chwaraeon a chyn-gapten yn y Lluoedd Arbennig) fel y bydd eich perfformiad fel clinigydd yn llai tebygol o ddod dan effaith y pwysau hynny.
Mae Mark yn ymdrin yn fanwl â’r model hwn, sy’n cyfuno hyfforddiant ffactorau dynol a strategaethau rheoli straen a hyfforddiant tuedd wybyddol er mwyn gwella perfformiad, mewn papur diweddar yn y BMJ, “Practice under pressure: what neurology can learn from anaesthesia”. Cafwyd derbyniad da i’r papur ac ymateb golygyddol gan Dr David Joseph Nicholls, Niwrolegydd yn Ysbyty Dinas Birmingham, yn galw am gynnwys hyfforddiant ffactorau dynol a thuedd wybyddol yn y cwricwlwm Niwroleg.
Mae Mark yn cynnal sesiynau hyfforddi rheolaidd gyda Deoniaeth Cymru ac, ar hyn o bryd, mae’n datblygu digwyddiad undydd a fydd yn edrych ar bob agwedd ar ffactorau dynol a gwella perfformiad drwy ddysgu ac addysgu.