Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogaeth i'r rhai hynny sydd wedi profi trawma

Mae digwyddiad trawmatig yn golygu unrhyw ddigwyddiad nad yw’n rhan o brofiad arferol unigolyn, ac sy’n achosi niwed corfforol, emosiynol neu seicolegol.

Mae pawb yn ymateb i ddigwyddiad trawmatig mewn ffordd wahanol, ac mae’r teimladau y mae pobl yn eu profi yn gwbl normal – natur y digwyddiad dirdynnol sydd ddim yn normal. Mae’n anodd rhag-weld pwy allai fod yn fwy tebygol o brofi trawma, oherwydd nid oes tystiolaeth bendant, ac mae ein seicoleg yn gymhleth ac, mewn llawer o ffyrdd, yn wahanol ym mhob un ohonom. Serch hynny, gwyddom y gallai eich staff fod yn fwy agored i niwed os ydynt wedi cael diagnosis o drawma yn y gorffennol. Gallent hefyd fod yn fwy agored i niwed os nad ydynt wedi profi caledi mawr erioed. Yn ogystal, gallai pobl fod yn fwy agored i niwed:

  • os ydynt yn cael pwl mawr o iselder ar hyn o bryd, neu anhwylder gorbryder acíwt (OCD, Gorbryder am Iechyd neu anhwylder straen wedi trawma)
  • os oes ganddynt safonau personol uchel iawn, ac os ydynt yn dibynnu llawer ar deimlo bod popeth dan reolaeth ganddynt, neu’n brwydro yn erbyn emosiynau cryf.

Fodd bynnag, nid yw cael y profiadau neu’r nodweddion hyn yn golygu o reidrwydd y byddant yn agored i niwed yn y dyfodol, felly nid oes angen poeni’n ormodol. Y peth gorau i’w wneud yw bod yn synhwyrol ac yn realistig, a bod yn ymwybodol o anghenion eich staff, a’r nodweddion a allai eu gwneud yn agored i niwed, a hefyd o’r adnoddau amddiffynnol sydd ar gael iddynt – er enghraifft, mae ynysigrwydd cymdeithasol yn fwy o ffactor risg na phrofiad blaenorol o drawma.

Mae’n bwysig cefnogi pobl sydd wedi mynd drwy brofiad trawmatig a chydnabod ei bod yn bosibl y bydd arnynt angen siarad am yr hyn sydd wedi digwydd. Gall ymateb emosiynol pobl i ddigwyddiad trawmatig fod yn seiliedig ar heriau i’w barn greiddiol amdanyn nhw eu hunain neu sut maen nhw’n gweld y byd. Mae’n bwysig cofio hefyd y gallai ffactorau eraill yn eu bywydau gyfrannu at eu tuedd i fod yn agored i niwed o ganlyniad i unrhyw ddigwyddiad trawmatig y maent yn rhan ohono, a’i effaith arnynt.

Mae ymatebion i ddigwyddiad argyfyngol yn debygol o fod yn waeth;

  • Os oes rhywun wedi marw
  • Os oes teimlad y byddai rhywun wedi hoffi gwneud mwy
  • Os nad yw’n ymddangos bod llawer o gefnogaeth ar gael, os o gwbl, gan gydweithwyr, teulu neu ffrindiau
  • Os yw’r digwyddiad yn digwydd yn fuan ar ôl digwyddiadau eraill sy’n achosi straen ym mywydau pobl

Gallai ymatebion gynnwys:

  • Tristwch yn enwedig os oes marwolaeth, anaf neu golled o unrhyw fath wedi bod
  • Euogrwydd am fethu â gwneud mwy
  • Dicter oherwydd yr hyn sydd wedi digwydd/beth bynnag a’i achosodd/anghyfiawnder y cyfan
  • Cywilydd am beidio ag ymateb fel y byddai rhywun yn dymuno neu am gael ei weld yn wan, yn emosiynol neu angen pobl eraill
  • Ofn y bydd yn torri i lawr neu’n colli rheolaeth neu y bydd rhywbeth tebyg yn digwydd eto
  • Atgofion neu deimladau o golled neu bryder am bobl eraill yn ei fywyd neu am ddigwyddiadau tebyg yn y gorffennol
  • Siom a all ddigwydd bob yn ail â gobaith.

Mae’n normal i bobl brofi ystod o symptomau gofidus am hyd at 4 wythnos ar ôl profiad annymunol. Gallai’r rhain gynnwys hunllefau, diffyg cwsg, bod yn or-wyliadwrus (yn dychryn yn hawdd), yn teimlo’n fwy emosiynol a dagreuol, yn ail-fyw a/neu yn ailchwarae’r profiad yn ei feddwl, y profiad yn ymwthio i’w fywyd (atgofion gweledol, arogl, synau), ac awydd cryf i osgoi pethau sy’n gysylltiedig â’r profiad nad oedd yn bodoli cyn hynny. Os bydd eich staff yn dal i brofi’r symptomau hyn ar ôl 4 wythnos, bydd angen iddynt ofyn am help.

Beth allwch chi ei wneud i gefnogi staff yn dilyn digwyddiad trawmatig

Er mwyn cefnogi rhywun sydd wedi dod i gysylltiad â digwyddiadau trawmatig efallai y gallai’r camau a ganlyn fod o fudd:

  • Cynnig cymorth a chlust i wrando, hyd yn oed os nad yw’r person wedi gofyn am help, a cheisio tawelu ei feddwl
  • Treulio amser gyda rhywun sydd wedi dioddef trawma
  • Gwrando’n astud, heb ragfarnu
  • Cynnig help i’r unigolyn ar gyfer tasgau bob dydd arferol
  • Gadael i’r unigolyn gael rhywfaint o amser preifat
  • Peidio â chymryd dicter yr unigolyn, neu deimladau eraill, yn bersonol
  • Peidio â dweud wrth yr unigolyn ei fod yn lwcus nad oedd pethau’n waeth, neu ‘fe ddoi di dros hyn’, na dweud wrtho am ddod at ei goed – nid yw’r datganiadau hyn yn cysuro pobl sydd wedi profi trawma
  • Dweud wrth yr unigolyn eich bod eisiau deall a’i helpu
  • Bod yn ofalus ac yn dawel pan fyddwch gyda’r unigolyn
  • Ceisio deall amrywiaeth ddiwylliannol pobl eraill

Dylech sicrhau eich bod yn gwybod am unrhyw gefnogaeth arall sydd ar gael i staff, a sut i gyfeirio’r unigolyn at y gefnogaeth honno e.e. Iechyd Galwedigaethol, Rhaglenni Cymorth i Weithwyr, ac yn y blaen.

Efallai y byddai’n werth cael pobl i ystyried effaith dod i gysylltiad â ffactorau sy’n achosi straen amgylcheddol trawmatig cronig – bydd angen iddynt gadw llygad ar y symptomau ehangach, gan gynnwys osgoi, ac ymddygiad sy’n rhewi emosiynau, megis defnyddio alcohol, cymryd risg, neu newidiadau eraill i’r hyn y byddai rhywun yn ei ystyried yn ymddygiad normal.

Cwestiynau defnyddiol y gallwch eu defnyddio:

  • Sut wyt ti’n teimlo?
  • Wyt ti eisiau siarad am y pethau sydd wedi digwydd?
  • Wyt ti’n iawn?

Cefnogi eich Hun yn dilyn Digwyddiad Trawmatig

Ambell waith gall pobl sy’n gweithio mewn lleoliad gofal iechyd fod yn dyst i ddigwyddiad(au) trawmatig, neu fod yn rhan o ddigwyddiad o’r fath, ac er bod pob un ohonom wedi ein hyfforddi i ddelio â’r digwyddiadau hyn, maent yn gallu effeithio arnom weithiau. Mae’n bwysig cydnabod eich ymatebion i ddigwyddiad trawmatig a gwybod nad ydych ar eich pen eich hun..

Mae digwyddiad trawmatig yn golygu unrhyw ddigwyddiad nad yw’n rhan o brofiad arferol unigolyn, ac sy’n achosi niwed corfforol, emosiynol neu seicolegol.

Mae pawb yn ymateb i ddigwyddiad trawmatig mewn ffordd wahanol, ac mae’r teimladau y mae pobl yn eu profi yn gwbl normal – natur y digwyddiad dirdynnol sydd ddim yn normal. Mae’n anodd rhag-weld pwy allai fod yn fwy tebygol o brofi trawma, oherwydd nid oes tystiolaeth bendant, ac mae ein seicoleg yn gymhleth ac, mewn llawer o ffyrdd, yn wahanol ym mhob un ohonom.

Gall eich ymatebion emosiynol i ddigwyddiadau trawmatig ymwneud yn bennaf â heriau i’ch gwerthoedd a’ch barn greiddiol amdanoch chi eich hun, a sut rydych yn gweld y byd. Gallant hefyd ymwneud â ffactorau eraill yn eich bywyd a allai eich gwneud yn fwy agored i niwed mewn digwyddiad trawmatig rydych yn gysylltiedig ag ef, ac o ganlyniad ag effaith hynny arnoch chi.

Wedi dweud hynny, gwyddom y gallech fod yn fwy agored i niwed os ydych wedi cael diagnosis o drawma yn y gorffennol. Gallech hefyd fod yn fwy agored i niwed os nad ydych wedi profi caledi mawr erioed.

Yn ogystal, gallech fod yn fwy agored i niwed:

  • os ydych yn cael pwl mawr o iselder ar hyn o bryd, neu anhwylder gorbryder acíwt (OCD, Gorbryder am Iechyd neu anhwylder straen wedi trawma)
  • os oes gennych safonau personol uchel iawn ac os ydych yn dibynnu llawer ar deimlo bod popeth dan reolaeth gennych, neu’n brwydro yn erbyn emosiynau cryf.

Fodd bynnag, nid yw cael y profiadau neu’r nodweddion hyn o reidrwydd yn golygu y byddwch yn agored i niwed yn y dyfodol, felly nid oes angen poeni’n ormodol.. Y peth gorau i’w wneud yw bod yn synhwyrol ac yn realistig, a bod yn ymwybodol o’r ffactorau sy’n eich gwneud yn agored i niwed, eich anghenion, a’ch adnoddau amddiffynnol – er enghraifft, mae ynysigrwydd cymdeithasol yn fwy o ffactor risg na phrofiad blaenorol o drawma. Dull rheoli gweithredol yw’r strategaeth orau, felly bydd angen i chi wybod beth sy’n normal i chi, a pha symptomau sy’n dangos bod angen pryderu, ac os ydych yn poeni gofynnwch am help a chefnogaeth.

Mae’n bwysig ein bod yn cefnogi pobl sydd wedi mynd drwy brofiad trawmatig, ac yn cydnabod y gallent fod angen siarad am y pethau sydd wedi digwydd.

Mae ymatebion i ddigwyddiad argyfyngol yn debygol o fod yn waeth

  • Os oes rhywun wedi marw.
  • Os oes teimlad y byddai rhywun wedi hoffi gwneud mwy.
  • Os nad yw’n ymddangos bod llawer o gefnogaeth ar gael, os o gwbl, gan gydweithwyr, teulu neu ffrindiau.
  • Os yw’r digwyddiad yn digwydd yn fuan ar ôl digwyddiadau eraill sy’n achosi straen ym mywydau pobl.

Gallai ymatebion gynnwys:

  • Tristwch, yn enwedig os oes marwolaeth, anaf neu golled o unrhyw fath wedi bod
  • Euogrwydd am fethu â gwneud mwy
  • Dicter oherwydd yr hyn sydd wedi digwydd/beth bynnag a’i achosodd/anghyfiawnder y cyfan
  • Cywilydd am beidio ag ymateb fel y byddai rhywun yn dymuno neu am gael ei weld yn wan, yn emosiynol neu angen pobl eraill
  • Ofn y bydd yn torri i lawr neu’n colli rheolaeth, neu y bydd rhywbeth tebyg yn digwydd eto
  • Atgofion neu deimladau o golled neu bryder am bobl eraill yn ei fywyd neu am ddigwyddiadau tebyg yn y gorffennol
  • Siom a all ddigwydd bob yn ail â gobaith.

Cefnogaeth yn dilyn digwyddiad trawmatig:

Cofiwch fod ymatebion yn broses naturiol ac y bydd ein cyrff a’n meddyliau’n edrych ar ôl eu hunain – bydd natur yn gwella os ydych yn caniatáu i deimladau ddod allan, ond gall cuddio teimladau ymestyn y cyfnod adfer.

Efallai mai adwaith amddiffynnol eich meddwl fydd peidio â gadael i chi deimlo effaith lawn digwyddiad ar unwaith – weithiau mae’n bosibl y byddwch mewn sioc a bydd eich teimladau’n dod i’r amlwg yn araf yn raddol ymhen ychydig ddiwrnodau. Gallech fod yn teimlo’n ddiemosiwn os yw eich teimladau wedi’u dal yn ôl, a gallai’r digwyddiad ymddangos yn afreal, fel breuddwyd bron, a gallech hyd yn oed fod yn amau a yw wedi digwydd o gwbl.

Mae’n normal i brofi ystod o symptomau gofidus am hyd at 4 wythnos ar ôl profiad annymunol. Gallai’r rhain gynnwys hunllefau, diffyg cwsg, bod yn or-wyliadwrus (yn dychryn yn hawdd), yn teimlo’n fwy emosiynol a dagreuol, yr holl emosiynau rydych yn eu crybwyll, yn ail-fyw a/neu yn ailchwarae’r profiad yn eich meddwl, y profiad yn ymwthio i’ch bywyd (atgofion gweledol, arogl, synau), ac awydd cryf i osgoi pethau sy’n gysylltiedig â’r profiad nad oedd yn bodoli cyn hynny. Os byddwch yn dal i brofi’r symptomau hyn ar ôl 4 wythnos, bydd angen i chi ofyn am help.

Mae rhai strategaethau y gallwch eu defnyddio er mwyn helpu eich hun ar ôl profi digwyddiad trawmatig. Efallai y bydd angen i chi ystyried effaith dod i gysylltiad â ffactorau sy’n achosi straen amgylcheddol trawmatig cronig, a chadw llygad ar y symptomau ehangach, gan gynnwys osgoi, ac ymddygiad sy’n rhewi emosiynau, megis defnyddio alcohol, cymryd risg, neu newidiadau eraill i’r hyn y byddai rhywun yn ei ystyried yn ymddygiad normal.

PETHAU I’W GWNEUD a PHETHAU I BEIDIO Â’U GWNEUD wrth ystyried eich teimladau:

  • Peidiwch â chadw eich teimladau i chi eich hun. Dywedwch wrth rywun sut rydych yn teimlo.
  • Peidiwch ag osgoi siarad am yr hyn sydd wedi digwydd.
  • Peidiwch ag ynysu eich hun. Mae’n bosibl bod pobl eraill wedi cael profiad tebyg ac y bydd ganddyn nhw eiriau doeth y gallant eu rhannu â chi
  • Peidiwch â bod yn rhy galed â chi eich hun. Does dim angen i chi fod mor ‘llym’ â chi eich hun tra byddwch yn addasu i’r hyn sydd wedi digwydd.
  • Peidiwch â disgwyl i’r atgofion ddiflannu ar unwaith. Gallent fod gyda chi am beth amser.
  • Peidiwch â mynd ati i yfed neu ysmygu’n ormodol na chymryd risgiau.

Pethau i’w gwneud:

  • Mynegi a rhannu eich emosiynau a’ch teimladau gyda rhywun fel eich rheolwr.
  • Derbyn unrhyw gefnogaeth a gynigir i chi, gan gynnwys cyfleoedd i rannu eich profiad gyda phobl eraill – mae’n bosibl y bydd ganddynt rywbeth i’w gynnig.
  • Gwneud amser i feddwl am y profiad, ond bod yn garedig â chi eich hun.
  • Cymryd amser i fod gyda’ch teulu a’ch ffrindiau.
  • Ceisio dweud wrth eich teulu, ffrindiau agos, cydweithwyr a rheolwyr sut rydych yn teimlo.
  • Ceisio cadw at eich trefniadau arferol gymaint ag sy’n bosibl.
  • Edrych ar ôl eich hun, bwyta’n dda a gwneud ymarfer corff.
  • Bod yn fwy gofalus wrth yrru. Mae’n bosibl na fyddwch yn gallu canolbwyntio cystal.

Ble alla i gael rhagor o help?

  • Eich rheolwr llinell, eich cydweithwyr neu rywun arall rydych yn ymddiried ynddo yn eich adran neu’r sefydliad
  • Yr Adran Iechyd Galwedigaethol
  • Gwasanaethau Llesiant a Chwnsela
  • Eich meddyg teulu

Gwybodaeth ychwanegol a allai eich helpu:

Mae’n bwysig eich bod yn edrych ar ôl eich hun ar adegau fel hyn. Cofiwch fod eich ymatebion yn rhan o broses naturiol. Mae eich meddwl wedi’i gyflyru i wella ei hun, a gallwch helpu i leihau’r amser y mae’n ei gymryd i wella drwy fynegi eich teimladau a siarad â’ch rheolwr neu gydweithiwr y gallwch ymddiried ynddo.

Mae gwybodaeth yn y canllaw hwn ynglŷn â sut y gallwch ofalu amdanoch eich hun, yn fwyaf penodol o ran

  • Llesiant corfforol
  • Llesiant seicolegol ac emosiynol
  • Cysylltedd Cymdeithasol