Cynhadledd Hyfforddiant Sgiliau Gwella Ansawdd - Arddel, Addasu, Alltudio... Arloesi
Croeso i dudalen QISTŵyl 2024.
Mae'r gynhadledd wyneb yn wyneb hon yn cael ei chynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd Dydd Gwener 13eg Rhagfyr 2024 rhwng 09.00 a 16.00.
Bydd y gynhadledd Gwella Ansawdd hon yn darparu gofod ar gyfer dysgu a rhannu i bob unigolyn mewn hyfforddiant, hyfforddwyr ac aelodau eraill o dimau amlddisgyblaethol ledled Cymru. Bydd y gynhadledd hefyd yn rhoi cyfle i gynrychiolwyr rwydweithio â chanolfannau gwella lleol a phobl eraill o'r un anian sy'n ymwneud â Gwella Ansawdd yng Nghymru.
Bydd y digwyddiad yn darparu digon o amser ar gyfer rhwydweithio, gyda sesiynau llawn (am) a gweithdai a hwylusir gan arbenigwyr Gwella Ansawdd (pm). Mae cyfle hefyd i arddangos peth o'r gwaith Gwella Ansawdd rhagorol sydd eisoes ar y gweill ledled Cymru drwy'r sesiynau cyflwyno posteri. (Sylwer: Mae cofrestru ymlaen llaw yn hanfodol).
Nod y digwyddiad yw rhoi cyfle i hyfforddwyr sy'n gweithio yn y proffesiynau amrywiol ar draws gofal iechyd yng Nghymru ddod at ei gilydd mewn amgylchedd dysgu amlbroffesiynol i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau i'w cefnogi i gyflawni eu rolau hyfforddwr yn effeithiol.
Thema'r gynhadledd eleni yw Arddel, Addasu, Alltudio……Arloesi
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y gynhadledd hon, ewch i’n tudalen we.
Cliciwch ar y botymau isod i gael mynediad at Raglen y Gynhadledd a gwybodaeth ddefnyddiol arall.