Neidio i'r prif gynnwy

3D

Logo showing the 3D model

Mae’r rhaglen 3D yn rhaglen addysgol am ddim sy’n agored i feddygon teulu, meddygon mewn ysbytai, meddygon iechyd cyhoeddus, deintyddion,  fferyllwyr ac offthalmolegwyr.

Mae’r rhaglen 3D wedi’i chynllunio i fynd i’r afael â gofynion addysgol gweithwyr gofal iechyd sy’n dymuno ymestyn eu gallu i ymgysylltu â’r agenda gwella gwasanaethau yn GIG Cymru a dylanwadu arni.

Elfen allweddol o’r rhaglen 3D yw’r prosiect 3D; prosiect a nodir gan y cyfranogwr sy’n seiliedig ar wella gofal iechyd. Drwy gyfuniad o theori ac ymarfer sefydliadol, nod y rhaglen yw cynyddu sgiliau a hyder y clinigwyr hynny nad ydynt yn gweld eu hunain fel arweinwyr yn yr ystyr draddodiadol, ond sy’n dymuno gweithredu a dylanwadu ar newid yn eu maes clinigol.

Nod y rhaglen 3D yw:

  • cynyddu’r gallu i gymryd rhan yn y gwaith o wella’r GIG yng Nghymru
  • gwella’r gallu i weithio mewn timau ac arwain timau
  • adnabod a rheoli’r rhwystrau sy’n atal gwelliant mewn gofal i gleifion
  • datblygu cyfleoedd a all arwain at welliannau yn ansawdd y gofal
  • cymhwyso agweddau ar theori’r sefydliad i’r gweithle a’r prosiect
  • cael cipolwg ar ddatblygiad sefydliadol lleol y GIG, er mwyn gwella’r ffordd y darperir gofal
  • dod yn rhan o rwydwaith o glinigwyr gyda dealltwriaeth ehangach o’r GIG gyda phrofiad o effeithio ar newid ar lefel leol neu genedlaethol.

Mae’r rhaglen yn rhedeg o fis Medi i fis Mai ac mae’n cynnwys saith modiwl. Bydd modiwlau yn cael eu rhyddhau yn ddilyniannol a bydd y grŵp yn cael dyddiadau/amseroedd cynlluniedig ar gyfer y gweithgareddau ar-lein.

“Fe wnaeth y rhaglen 3D fy helpu i ddatrys problemau, rhagweld rhwystrau, helpu i ddarparu atebion, rhoi amser i mi feddwl, a fy nghadw i fynd!”

“Yn ddi-os, bydd y rhaglen 3D yn effeithio ar fy ngweledigaeth yn y dyfodol fel meddyg mewn ffordd gadarnhaol iawn. Rydw i nawr yn teimlo’n fwy parod a gwybodus am sut mae rheoli heriau yn y dyfodol yn fy mywyd proffesiynol.”

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Admin DPP.

Recriwtio bellach ar agor - Ffurflen gais

Dyddiad cau ar gyfer pob cais yw Dydd Llun 26 Gorffennaf 2021.