Neidio i'r prif gynnwy

Datblygiad proffesiynol parhaus (DPP)

Pills and medical equipment

Mae’r Uned Cymorth Ailddilysu (RSU) yn datblygu ac yn darparu amrywiaeth o ddigwyddiadau ac adnoddau CPD ar-lein i gefnogi anghenion gweithlu GIG Cymru.

Mae ein gweithgarwch DPP wedi'i gynllunio ar gyfer meddygon teulu, i ddiweddaru gwybodaeth glinigol ac i gefnogi dysgu parhaus, ond mae hefyd yn briodol ar gyfer darparwyr gofal iechyd eraill. Rydym yn chwilio am gyfleoedd i gydweithio â’n cydweithwyr ar draws AaGIC, yn ogystal ag asiantaethau allanol, i ddatblygu a hyrwyddo digwyddiadau ac adnoddau addysgol amlddisgyblaethol

E-Fodiwlau DPP

Mae ein gwefan DPP yn cynnwys dros 30 o fodiwlau mynediad agored ar amrywiaeth o bynciau clinigol ac anghlinigol.

Mae adolygiadau rheolaidd o’n modiwlau yn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gyfredol ac mae ein modiwlau’n cael eu hyrwyddo drwy ddefnyddio sianeli cyfryngau cymdeithasol AaGIC a thrwy eu cysylltu ag ymgyrchoedd ymwybyddiaeth cenedlaethol. Rydym yn monitro tueddiadau a materion gofal sylfaenol cyfredol i sicrhau ein bod yn diwallu anghenion parhaus y gweithlu ac yn arfarnu ‘llwyddiant’ pob modiwl drwy ddadansoddi data allweddol gan gynnwys adborth gan ddefnyddwyr.

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein holl fodiwlau’n cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg y mae AaGIC wedi’u mabwysiadu’n wirfoddol.

Dyddiau astudio DPP

Rydym yn darparu rhaglen o ddigwyddiadau o ansawdd uchel sy’n seiliedig ar anghenion dysgu ac sydd ar gael i bob meddyg teulu ledled Cymru. Mae’r digwyddiadau addysgol wyneb yn wyneb hyn yn ymdrin ag ystod eang o bynciau, gyda chyfle i feddygon teulu rwydweithio â’u cymheiriaid a chael gwybodaeth a chyngor gan glinigwyr arbenigol.

Mae ein diwrnodau astudio yn gyfle gwych i wneud y canlynol:

  • diweddaru gwybodaeth am amrywiaeth eang o bynciau
  • cael gwybodaeth a chyngor gan glinigwyr arbenigol blaenllaw
  • dysgu mwy am bolisïau a gweithdrefnau cenedlaethol a lleol
  • rhwydweithio â gweithwyr clinigol proffesiynol eraill
  • cefnogi ymarfer a datblygiad proffesiynol
  • bodloni’r gofynion ailddilysu.

Mae rhagor o wybodaeth am ein digwyddiadau a’n modiwlau sydd ar y gweill ar gael ar ein Gwefan DPP i Feddygon Teulu.