Neidio i'r prif gynnwy

Buddion y cytundeb hyfforddwyr meddygol

Drwy lofnodi’r Cytundeb Hyfforddwyr Meddygol (Gofal Eilaidd ac Addysg Is-raddedig), mae hyfforddwyr yn dangos eu hymrwymiad i’r rôl, gan gynnwys datblygu a darparu addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel a darparu amgylchedd dysgu addas, cefnogol. Yn y pen draw, bydd hyn yn cyfrannu at ansawdd well o ran gofal cleifion, gan arwain at ddiogelwch gwell i gleifion.

Mae’r cytundeb hefyd yn gwella’r cyfathrebu a’r atebolrwydd rhwng y rhai sy'n gyfrifol am ddarparu a chefnogi addysg a hyfforddiant ac yn sicrhau cysondeb o ran rolau hyfforddwyr o fewn a rhwng Darparwyr Addysg Lleol (DALl) ac ysgolion meddygol drwy gyfleu hawliau, rolau a chyfrifoldebau’r rheini dan sylw yn gliriach. Yn ei dro, mae hyn yn sicrhau dealltwriaeth gyson ar draws GIG Cymru.

Mae’r cytundeb hefyd yn cyfrannu at godi proffil addysg a hyfforddiant meddygol yng Nghymru, a chynyddu ei apêl fel cyrchfan i raddedigion ac i wella lefelau recriwtio a chadw staff.

Mae'r buddion allweddol i bob parti wrth ymrwymo i'r cytundeb yn cael eu nodi isod.

Buddion i hyfforddwyr

  • Ar ôl llofnodi'r Cytundeb a bodloni’i ofynion, bydd hyfforddwyr yn cael eu hargymell i’w cydnabod yn ffurfiol gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) a bydd hynny’n cael ei adlewyrchu ar eu statws ar Restr y GMC o Ymarferwyr Meddygol Cofrestredig.
  • Amser ac adnoddau gwarchodedig i gyflawni rôl(au) hyfforddwr.
  • Ffordd o gydnabod ac ystyried rolau hyfforddwyr yn effeithiol o fewn prosesau arfarnu/datblygu perfformiad practis cyfan ar gyfer clinigwyr y GIG a phrosesau cynllunio swyddi.
  • Mynediad i hyfforddiant a datblygiad proffesiynol priodol ar gyfer y rôl.
  • Mynediad i lyfrgell a gwasanaethau TG GIG Cymru sy’n cynnwys mynediad i gasgliad cynhwysfawr o e-adnoddau ar y we gan gynnwys e-gylchgronau, e-lyfrau a chronfeydd data mawr.
  • Amgylchedd lle mae hyfforddwyr sy’n ymrwymo i ddarpariaeth hyfforddi o ansawdd uchel yn cael eu cefnogi a’u datblygu’n llawn.
  • Creu ‘cymuned ymarfer’ sy’n cynnwys hyfforddwyr ar draws Cymru gyda diddordeb cyffredin mewn rhagoriaeth hyfforddiant.

Buddion i Ddarparwyr Addysg Lleol (cyflogwyr) a threfnwyr addysg

  • Tryloywder a chysondeb o ran y ffordd o ddarparu, rheoli a chefnogi rolau hyfforddwyr a rhwng Darparwyr Addysg Lleol (a threfnwyr addysg) a mecanweithiau symlach ar gyfer eu rheoli.
  • Amgylchedd hyfforddi cefnogol, sy’n arwain at fwy o frwdfrydedd dros rolau hyfforddwyr, a’r niferoedd sy’n mynd amdanyn nhw, ac yn y pen draw arwain at garfan o hyfforddwyr proffesiynol, hyfforddedig, llawn cymhelliant ledled Cymru sy’n cael eu cefnogi ac sy'n ymdrechu'n barhaus i wella ansawdd yr hyfforddiant.
  • Ffordd o roi cefnogaeth a chydnabyddiaeth effeithiol ac ystyried rolau hyfforddwyr o fewn prosesau datblygu perfformiad a chynllunio swyddi
  • Cysylltiadau, cyfathrebu ac atebolrwydd gwell rhwng y trefnwyr addysg a Darparwyr Addysg Lleol sy'n gyfrifol am ddarparu addysg a hyfforddiant meddygol yng Nghymru.
  • Darparu’r sylfaen ar gyfer system o reoli ansawdd hyfforddiant ar draws Cymru.
  • Y gallu i ddarparu tystiolaeth o fodloni'r gofynion a ddiffinnir yn ‘Safonau i Hyfforddwyr’ a ‘Chanllaw Euraidd’ y GMC, sy’n galluogi Darparwyr Addysg Lleol a threfnwyr addysg i fodloni rhwymedigaethau statudol.
  • Cefnogaeth i Ddarparwyr Addysg Lleol a threfnwyr addysg wrth iddyn nhw gefnogi, rheoli, archwilio a rhoi adnoddau i rolau hyfforddwyr.