Neidio i'r prif gynnwy
Sara-Catrin Cook

Deon Cyswllt Efelychu a Sgiliau Clinigol (ac Arweinydd Prosiect), Addysg a Gwella Iechyd Cymru

Amdanaf i

Deon Cyswllt Efelychu a Sgiliau Clinigol (ac Arweinydd Prosiect), Addysg a Gwella Iechyd Cymru

Mae Sara’n gweithio fel Ymgynghorydd Meddygaeth Gofal Dwys ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn ogystal â Deon Cyswllt Efelychu yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Mae Sara wedi ymwneud ag efelychu gofal iechyd ers tua 2009. Ei maes diddordeb penodol yw efelychu yn y fan a’r lle, gan ei ddefnyddio i gyflwyno addysg yn ogystal â phrofi systemau/prosesau a gwella ansawdd. Mae ganddi brofiad helaeth o ddylunio a chyflwyno amrywiol ddigwyddiadau rhyngbroffesiynol yn seiliedig ar efelychu ac mae wrth ei bodd yn cyflwyno mewn cyfarfodydd a chynadleddau. Yn 2016, cafodd Sara gyfle i ymgymryd â chymrodoriaeth efelychu ffurfiol yng Nghanolfan Sgiliau Clinigol ac Efelychu Sydney yn ogystal ag yn Ysbyty Royal North Shore, Sydney. Cafodd Sara yr amser mwyaf anhygoel yn dod i adnabod nifer o efelychwyr ysbrydoledig o bob rhan o'r byd. Bellach yn ôl yng Nghymru, mae gan Sara y fraint o fod yn bennaeth Tîm Efelychu AaGIC a gallu cynorthwyo’r efelychu gwych a geir ar draws gofal iechyd yng Nghymru.