Rheolwr Achosion, yr Uned Cymorth Proffesiynol, Addysg a Gwella Iechyd Cymru
Rheolwr Achosion, yr Uned Cymorth Proffesiynol, Addysg a Gwella Iechyd Cymru
Mae Sally yn weithiwr proffesiynol profiadol ym maes dysgu a datblygiad sefydliadol, sy’n arbenigo mewn datblygu gyrfaoedd o fewn y sectorau iechyd ac addysg uwch. Mae hi wedi gweithio ym maes addysg feddygol ers 2008. Yn wreiddiol, roedd yn Neoniaeth Cymru, yn bennaf wrth ddarparu cymorth gyrfaol i feddygon, gyda gwaith cysylltiedig mewn datblygu cyfadrannau a dylunio cwricwlwm israddedig. Mae hi'n Gymrawd Siartredig o'r CIPD ac mae ganddi radd Meistr Ymarfer Hyfforddi a Mentora. Ar hyn o bryd mae gan Sally ddiddordeb personol mewn ail-lunio diwedd gyrfaoedd.