Athro Addysg Feddygol, Ysgol Feddygaeth, Prifysgol Caerdydd
Athro Addysg Feddygol, Ysgol Feddygaeth, Prifysgol Caerdydd
Mae Katie yn Athro Cyswllt Addysg Feddygol ac yn Gynghorydd y Sefydliad Gwella Gofal Iechyd (IHI) yn yr Ysgol Feddygaeth, Prifysgol Caerdydd. Mae Katie yn gweithio ar y ffin rhwng seicoleg a gwyddor gymdeithasol gymhwysol, yn archwilio ac yn meithrin dealltwriaeth o sut i reoli straen a newid ymddygiadol. Mae hi hefyd yn archwilio sut mae ymchwil addysg yn gwneud gwahaniaeth i ymarfer clinigwyr yn y gweithle ac felly'n dylanwadu ar ofal cleifion. Mae ei phortffolio addysgu ac ymchwil yn canolbwyntio ar addysg a hyfforddiant meddygon. Mae hi wedi arwain gwerthusiadau effaith uchel mewn addysg a hyfforddiant sy'n gysylltiedig â iechyd megis Hyfforddiant Meddygaeth Fewnol HEE a pheilotiaid Lleoliadau Clinigol Fferyllwyr Israddedig HEE. Yn ei rôl presennol mae hi’n arwain ymchwil sy'n archwilio’r parodrwydd i ymarfer, trawsnewid, hunaniaeth, gwella ansawdd (gofal sylfaenol ac eilaidd), rhyw, cyfiawnder a thegwch yn y gweithle. Mae hi hefyd yn arwain ymchwil ar effaith niwro-amrywiaeth ar addysg a hyfforddiant meddygon a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.