Neidio i'r prif gynnwy

Pwy ydyn ni

Rydyn ni’n rhan o Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ac rydyn ni’n cefnogi hyfforddeion meddygol a deintyddol ôl-raddedig yng Nghymru (tua 2,600 ohonynt) i wneud cynnydd yn eu hyfforddiant a’u datblygiad proffesiynol. I hybu rhagoriaeth mewn safonau addysg a hyfforddiant ôl-raddedig, rydyn ni wedi datblygu systemau i ymateb yn gyflym i unrhyw bryderon a godir.

Beth rydyn ni’n ei wneud

Rydyn ni’n:

  • cynnig cyngor, arweiniad a chymorth i hyfforddeion yn eu cyd-destun proffesiynol
  • annog pobl i adnabod problemau yn gynnar, a allai arwain at atgyfeiriad i’r Uned Cymorth Proffesiynol
  • darparu strwythur clir i oruchwylwyr clinigol ac addysgol ar gyfer adnabod problemau a mynd i'r afael â nhw
  • sefydlu llinellau cyfrifoldeb clir ar gyfer yr holl addysgwyr sy’n rhan o'r gwaith o reoli hyfforddeion
  • darparu rhwydwaith o gymorth i addysgwyr ledled Cymru
  • rhoi mynediad i arbenigwyr sy’n gallu delio â meysydd penodol
  • hyfforddi a mentora hyfforddeion 1:1 er mwyn llunio cynllun gweithredu a gweithio drwyddo

Gan sicrhau ein bod ni’n:

  • rheoli risg
  • gweithio yn unol â safonau clir a chod ymarfer, gydag atebolrwydd
  • gweithio mewn seilwaith cefnogol
  • adnabod problemau’n gynnar ac ymyrryd mewn ffordd amserol
  • darparu dilyniant a chyfathrebu clir
  • darparu hyfforddiant a datblygiad ffurfiol i’r holl randdeiliaid
  • ymgysylltu’n llawn â’r holl randdeiliaid
  • defnyddio meini prawf llwyddiant adnabyddadwy
  • dilyn proses archwilio ac arfarnu gadarn
  • cynnal prosesau sicrhau ansawdd mewnol ac allanol

Maen nhw’n bobl broffesiynol ac mae ganddyn nhw wahanol ffyrdd o ddelio â materion synhwyrol y byddai wedi bod yn anodd delio â nhw ar lefel ysbyty.

Cyngor clir a chyfeillgar sydd wedi’i wahanu’n dda oddi wrth yr amgylchedd clinigol.

Mae’n ddefnyddiol cael rhywun i edrych yn wrthrychol ar y sefyllfa o’r tu allan i’r adran er mwyn helpu i lunio cynllun gweithredu.

Cefnogol heb fod yn feirniadol

Pwy ydyn ni’n gallu eu cefnogi

Mae'r Uned Cymorth Proffesiynol yn cefnogi'r holl feddygon a deintyddion ôl-raddedig ledled Cymru gyfan drwy gydol eu hyfforddiant.

Dyma sydd gan ein hyfforddeion i'w ddweud

canlyniad: 100% byddwn A fyddech chi’n argymell yr Uned Cymorth Proffesiynol i gydweithiwr? Byddwn 100% Na fyddwn 0%

canlyniad: 100% byddwn
A fyddech chi’n argymell yr Uned Cymorth Proffesiynol i gydweithiwr?
Byddwn 100%
Na fyddwn 0%

Polisi Cyfrinachedd

Rolau a Chyfrifoldebau

 

Ffeiliau