Neidio i'r prif gynnwy

Graddedigion meddygol rhyngwladol

Yn y DU, mae'r term Graddedigion Meddygol Rhyngwladol yn cyfeirio at feddygon sy’n ffoaduriaid a meddygon tramor sydd wedi cael eu prif gymhwyster meddygol o ysgol feddygol y tu allan o'r DU a'r UE. Mae’r term hefyd yn cwmpasu dinasyddion y DU sydd wedi hyfforddi mewn ysgolion meddygol y tu allan i'r DU a'r UE, a meddygon tramor sydd wedi hyfforddi mewn ysgol feddygol yn y DU ond nad oes ganddynt hawliau preswyl.

Mae meddygon sydd wedi hyfforddi mewn ysgolion meddygol yn y DU ac wedi gweithio mewn gwledydd yn yr UE yn cael eu hystyried ar wahân yn y DU oherwydd mae ganddynt hawliau tebyg i feddygon sydd wedi’u hyfforddi yn y DU.

Os ydych chi’n destun rheolaeth fewnfudo, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o’ch statws mewnfudo ar ddyddiad cau'r swydd rydych chi’n gwneud cais amdani. Os oes gennych chi ganiatâd cyfyngedig i aros, byddwch yn cael eich ystyried ar gyfer swydd cyn belled â bod eich categori mewnfudo yn caniatáu i chi ymgymryd â rhaglen hyfforddiant a’i fod yn ddilys ar ddyddiad cau’r swydd rydych chi’n gwneud cais amdani.