Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth seicolegol

Gall cymorth seicolegol fod yn fuddiol i hyfforddeion o bryd i’w gilydd yn ystod yr hyfforddiant, a hynny am amryw o resymau. Gall hyn gynnwys, er enghraifft: digwyddiad arwyddocaol yn eu bywydau; gorweithio neu ddioddef o straen a/neu gorbryder; helpu i wneud synnwyr o ddigwyddiad arwyddocaol neu sefyllfa anodd yn y gweithle. Mae tystiolaeth yn dangos bod therapi seicolegol yn gallu gweithio’n dda ar gyfer amryw o broblemau, gan gynnwys rhai emosiynol, meddyliol ac ymddygiadol.

Mae'r Uned Cymorth Proffesiynol yng Nghymru yn defnyddio Hammet Street Consultants (HSC) Ltd - mae gan therapyddion HSC brofiad helaeth o weithio gyda meddygon iau a deintyddion dan hyfforddiant. Mae'r adborth ar eu cymorth a’r gwasanaeth yn gadarnhaol iawn.

Yn dilyn cyfarfod gyda’r Uned Cymorth Proffesiynol, mae modd gwneud atgyfeiriad a gellir trefnu cyswllt â therapydd HSC cyn pen 48 awr. Gall y cymorth hwn gynnwys Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT), Therapi Dadansoddol Gwybyddol (CAT), Ailbrosesu Dadsensiteiddio Symudiad y Llygaid (EMDR) a seicotherapi; mae chwe sesiwn wedi’u hariannu ar gael.