Neidio i'r prif gynnwy

Y System Brofi Ryngwladol ar gyfer yr Iaith Saesneg (IELTS) a'r Prawf Saesneg Galwedigaethol (OET)

Mae grŵp Meddygon a Deintyddion sy’n Geiswyr Lloches a Ffoaduriaid yng Nghymru (WARD) yn cynnig hyfforddiant wythnosol ar y System Brofi Ryngwladol ar gyfer yr Iaith Saesneg (IELTS) a'r Prawf Saesneg Galwedigaethol (OET), yn ogystal â thalu costau’r arholiadau iaith hyn.

Caiff pedwar dosbarth wythnosol eu cynnal mewn ystafell hyfforddi ddynodedig i WARD yn swyddfeydd Alltudion ar Waith yng nghanol Caerdydd. Yn yr ystafell hyfforddi hon, mae gan ein haelodau fynediad at lyfrgell o lawlyfrau a deunyddiau IELTS ac OET.

Sylwch, oherwydd y pandemig COVID-19, fod yr holl ddosbarthiadau yn cael eu cynnal yn rhithiol.

Er bod dosbarthiadau naill ai’n canolbwyntio ar OET neu IELTS, mae croeso i’r holl fyfyrwyr ddod i’r ddau ddosbarth.

Rhestr dosbarthiadau

List of classes
Dydd Llun
09:30 to 13:30
Dydd Mawrth
09:30 to 13:30
Dydd Mercher
09:30 to 13:30
Dydd Iau
09:30 to 13:30
Gweithdy Gramadeg a Geirfa Gweithdy Gramadeg a Geirfa Gweithdy Gramadeg a Geirfa Gweithdy Gramadeg a Geirfa
Strategaethau ar gyfer yr arholiad OET Strategaethau ar gyfer yr arholiad OET Strategaethau ar gyfer yr arholiad IELTS Strategaethau ar gyfer yr arholiad IELTS
Prawf Ymarfer (darllen) Prawf Ymarfer (ysgrifennu) Prawf Ymarfer (siarad) Prawf Ymarfer (gwrando)

 

Mae’r tabl uchod ar gyfer wythnos un (o gylch fesul pedair wythnos) sy’n canolbwyntio ar brofion ymarfer sy’n newid o wythnos i wythnos. Gwneir hyn i sicrhau bod y sesiynau’n cwmpasu pob agwedd ar yr arholiad i fyfyrwyr sydd ond yn gallu dod i’r dosbarth un diwrnod yr wythnos.

Mae elfen ‘Gweithdy Gramadeg a Geirfa’ y wers yn gyfle i fyfyrwyr gael eglurder ynghylch unrhyw eirfa newydd a’i hystyron, neu godi cwestiynau am unrhyw anawsterau maen nhw’n eu cael gyda strwythur yr iaith Saesneg. Mae methodoleg yr adran hon yn sefyllfa ‘lockstep’ i raddau helaeth, lle mae gan fyfyrwyr ryddid i holi'r darlithydd.

Mae'r arholiad IELTS yn benodol iawn o ran yr hyn sydd ei angen i gyrraedd sgôr y band angenrheidiol, felly mae ‘Strategaethau ar gyfer yr arholiad IELTS’ yn canolbwyntio ar sut dylai’r dysgwyr fynd i’r afael â rhannau penodol o’r prawf, ee, ‘gwibio ac archwilio’ i gael atebion yn yr adran ddarllen. Caiff y cam hwn ei gyflwyno mewn fformat ‘P.P.P.’ clasurol (cyflwyno, ymarfer, cynhyrchu – present, practice, produce yn y Saesneg).

Daw pob dosbarth i ben gyda ‘phrawf ymarfer’ ar gyfer pob modiwl, er mwyn rhoi syniad llawn i’r myfyrwyr o'r hyn sy’n ddisgwyliedig yn yr arholiad, yn ogystal â chyfle i ddefnyddio’r sgiliau a'r strategaethau maen nhw wedi’u dysgu mewn modd mor effeithiol â phosibl. Caiff y profion hyn eu cynnal dan amodau arholiad er mwyn i'r myfyrwyr ymgyfarwyddo ag amgylchedd prawf go iawn.

Mae'r arholiadau ar gyfer OET a IELTS yn gostus. Yn ogystal â hyfforddiant, mae WARD yn darparu grantiau i dalu ffioedd arholiadau hefyd. Bydd y rhain yn talu costau’r arholiadau, a chostau teithio a llety i fynd i’r arholiad mewn rhai amgylchiadau.

Mae’r prosiect yn cydnabod trafferthion gweithwyr proffesiynol eraill ac weithiau fe gaiff grantiau ar gyfer ffioedd dysgu IELTS/OET eu hymestyn i ddeintyddion a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill hefyd. Hyd yma, mae 14 o ddeintyddion wedi elwa o ffioedd dysgu IELTS.

Cysylltwch â'n Huned Cymorth Proffesiynol drwy HEIW.professionalsupport@wales.nhs.uk am fwy o wybodaeth.