Neidio i'r prif gynnwy

Swyddi ychwanegol

Mae meddygon sy’n ffoaduriaid, er eu bod wedi ailgymhwyso i ymarfer yn y DU, yn ei chael yn eithriadol o anodd cael cyflogaeth oherwydd eu diffyg profiad yn y DU a bod ganddyn nhw ddim geirdaon.

Mae llawer yn ei chael yn anodd dychwelyd i'r gwaith oherwydd absenoldeb hir o ymarfer meddygol a phrofiad ymarferol. Mae angen cymorth ychwanegol ar feddygon sy’n ffoaduriaid i ddatblygu eu hyder, sydd yn ei dro yn eu helpu i gael profiad yn GIG Cymru.

Er mwyn hwyluso’r broses o ymuno â’r GIG, fe wnaethom ni greu swyddi ychwanegol (lefel hyfforddiant sylfaenol). Mae'r swyddi hyn ar gael i feddygon sy’n ffoaduriaid ac wedi cwblhau arholiad y Bwrdd Asesiadau Proffesiynol ac Ieithyddol (PLAB) 2, sy’n ‘barod am swydd’ ond heb gofrestru â’r Cyngor Meddygol Cyffredinol. Mae pob swydd yn para chwe mis ar y tro. Yn ystod eu hamser yn y swydd, caiff y meddygon sy’n ffoaduriaid eu hannog i wneud cais am swyddi parhaol a’u cefnogi gan yr Uned Cymorth Proffesiynol. Mae’r broses yn galluogi’r cyfranogwyr i gael profiad digonol gyda GIG Cymru, i lenwi'r bwlch gyrfaol yn eu curriculum vitae a’u helpu i gael geirdaon.

Rhaglen gynefino ar gyfer swyddi ychwanegol

Mae’r meddygon yn ymgymryd â rhaglen gynefino ddwys cyn dechrau yn y swydd, sy’n cynnwys:

  • cyflwyniad i strwythurau’r GIG
  • rôl cyrff rheoleiddiol a chyrff eraill, gan gynnwys y Cyngor Meddygol Cyffredinol, Byrddau Iechyd, Colegau Brenhinol, NCAS
  • dyletswyddau meddyg, a nodir yn Arferion Meddygol Da y Cyngor Meddygol Cyffredinol
  • amlinelliad o hyfforddiant meddygol yn y DU
  • materion diwylliannol a moesegol yn y DU sy’n effeithio ar ymarfer meddygol
  • y cyfle i eistedd i mewn ac arsylwi mewn lleoliad penodol er mwyn galluogi'r meddyg i ddatblygu gwell dealltwriaeth o'r hyn sy’n ofynnol o feddyg sy’n gweithio yn yr amgylchedd hwnnw
  • sgiliau cyfathrebu ac ymgynghori
  • ysbytai liw nos
  • tynnu gwaed, llenwi ffurflenni, fferylliaeth
  • portffolios a gofynion o ran cynnal datblygiad proffesiynol parhaus, arfarniadau a gofynion ailddilysu
  • rheoli perfformiad
  • arweiniad ar yrfaoedd
  • cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Mae hyn wedi bod yn eithriadol o lwyddiannus o ran paratoi meddygon ar gyfer gweithio yn amgylchedd y GIG.

Mae’r swyddi ychwanegol wedi cael eu creu i rymuso meddygon sy’n ffoaduriaid yng Nghymru, i helpu i ddiwallu anghenion gweithlu GIG Cymru nawr ac yn y dyfodol, yn ogystal â gweithio tuag at brosesau strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer cynllunio’r gweithlu.