Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth i feddygon sy'n ffoaduriaid drwy WARD

Ers blynyddoedd lawer, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), a Deoniaeth Cymru cyn hynny, wedi bod yn gweithio ar ran meddygon a deintyddion sy’n ffoaduriaid ac wedi ffoi rhag erledigaeth yn eu gwledydd eu hunain i geisio lloches yn y DU, ac sydd nawr yn dymuno ailgydio yn eu gyrfaoedd yma.

Mae’n gallu bod yn anodd integreiddio i mewn i system feddygol y DU. Mae’r broses yn rhwystredig ac yn gallu teimlo allan o’ch cyrraedd oherwydd cyfyngiadau ariannol a rhwystrau ymarferol eraill. Caiff meddygon sy’n ffoaduriaid yn aml eu gorfodi i ddibynnu ar fudd-daliadau nawdd cymdeithasol yn hytrach na chyfrannu eu sgiliau a’u gwybodaeth i'r GIG.

WARD

Mewn ymateb i hyn, yn 2002, cafodd Grŵp Meddygon a Deintyddion sy’n Geiswyr Lloches a Ffoaduriaid yng Nghymru (WARD) ei sefydlu er mwyn mynd i’r afael ag anghenion addysg a hyfforddiant meddygon sy’n ffoaduriaid/ceiswyr lloches yng Nghymru, a helpu i fodloni’r safonau sy’n ofynnol er mwyn ymuno â’r farchnad lafur.

Y nod cyffredinol yw sicrhau bod meddygon sy’n ceisio lloches yng Nghymru yn cael cyfle i ennill cofrestriad gyda’r Cyngor Meddygol Cyffredinol, ac felly’n eu galluogi nhw i integreiddio a chael eu cynnwys mewn cymdeithas, gan ddarparu gweithlu ychwanegol i GIG Cymru. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydnabod y bydd hwyluso integreiddiad ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn helpu i gynnal niferoedd meddygon yn y GIG yng Nghymru yn y dyfodol.

Mae WARD yn cynnig hyfforddiant wythnosol ar y System Brofi Ryngwladol ar gyfer yr Iaith Saesneg (IELTS) a'r Prawf Saesneg Galwedigaethol (OET), yn ogystal â thalu costau’r arholiadau iaith hyn. Mae WARD hefyd yn helpu ei aelodau – yn ymarferol ac yn ariannol – i basio arholiadau PLAB1 a PLAB2 y Bwrdd Asesiadau Proffesiynol ac Ieithyddol (PLAB). Caiff swyddi ychwanegol eu neilltuo i feddygon sy’n ffoaduriaid ac wedi cwblhau arholiad PLAB 2, sy’n ‘barod am swydd’ ond heb gofrestru â'r Cyngor Meddygol Cyffredinol.

Hyd yma, mae 300+ gweithwyr gofal iechyd (255 o feddygon a deintyddion) wedi elwa o’r prosiect hwn.

 

Os hoffech chi neu unrhyw un rydych chi'n ei adnabod gael budd o gymorth WARD, am wybodaeth am y prosiect, y cymorth a ddarperir neu os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â:

Leona Walsh a Trish Moore

Uned Cymorth Proffesiynol

Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)

Ty Dysgu, Nantgarw, CF15 7QQ

@LeonaAWalsh

Ffôn: 0044(0) 7900191933

E-bost: HEIW.professionalsupport@wales.nhs.uk

neu

Sam Allen

Dadleoli Pobl ar Waith

3rd Floor, Hastings House, Fitzalan Place,

Cardiff, CF24 0BL

Ffôn: (029) 2078 9733

E-bost: sam@dpia.org.uk

 

Yn yr adran hon

Y System Brofi Ryngwladol ar gyfer yr Iaith Saesneg (IELTS) a'r Prawf Saesneg Galwedigaethol (OET)
Y Bwrdd Asesiadau Proffesiynol ac Ieithyddol (PLAB)
Swyddi ychwanegol