Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth gydag arholiadau

Gallwn gynnig cymorth o'r radd flaenaf i chi os gwnewch chi gysylltu â ni ar ddechrau eich cyfnod astudio – argymhellir eich bod yn neilltuo 6-9 mis i baratoi ar gyfer eich arholiadau.

Os ydych chi’n sylwi bod bylchau yn eich gwybodaeth neu’ch sgiliau clinigol, cysylltwch â’ch Goruchwyliwr Addysgol a/neu Glinigol i gael cymorth – maen nhw yn y sefyllfa orau i gynnig y cyfleoedd sydd eu hangen arnoch i ddatblygu.

Gall cymorth gydag arholiadau gael ei ddarparu fel hyfforddiant 1:1 er mwyn edrych ar eich dulliau adolygu a sefydlu cynllun astudio.

Rydyn ni’n cynnig cyfres o dri gweithdy sy’n canolbwyntio ar adolygu a pharatoi ar gyfer arholiadau. Maen nhw’n cael eu cynnal 4 gwaith y flwyddyn neu ar gais. Rydyn ni’n nodi strategaethau ar gyfer delio â gorbryder a straen, rheoli’ch hun a’ch amser, ac yn cynnig cyfle i gael cefnogaeth gan gymheiriaid a rhwydweithio.

Mae cymorth gan therapyddion allanol ar gael drwy Skype ar gyfer unrhyw un sy’n dioddef o orbryder ynghylch arholiadau.

Yn dilyn Prawf QuickScan i Sgrinio ar gyfer Dyslecsia, efallai y bydd hyfforddeion yn cael eu cyfeirio at seicolegydd addysg i gael asesiad dyslecsia.

Sylwch: dydy cymorth gydag arholiadau

  1. ddim yn mynd i'r afael â bylchau mewn sgiliau na gwybodaeth glinigol – cysylltwch â’ch goruchwyliwr addysgol a / neu glinigol.
  2. rhaid gwneud cais gyda digon o rybudd - rhowch o leiaf 15 wythnos o rybudd