Neidio i'r prif gynnwy

Arweiniad a chymorth i hyfforddwyr

Pam mae’n bwysig ymyrryd yn gynnar

Gall adnabod problemau sy’n ymwneud â chynnydd yn gynnar eu hatal rhag gwaethygu a throi’n sefyllfa fwy difrifol.

Mae amryw o bethau yn gallu effeithio ar berfformiad hyfforddeion:

  • ffactorau tueddol, ee, salwch blaenorol, problemau personol
  • ffactorau ysgogol, ee, digwyddiadau acíwt, ynysu cymdeithasol
  • ffactorau parhaol, ee, salwch cronig, problemau gyda threfn.

Bydd ymyrryd yn gynnar yn lleihau'r risgiau posibl mae’r hyfforddai, cydweithwyr, cleifion a'r sefydliad yn eu hwynebu. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod cynefino da, timau wedi’u sefydlu’n briodol, ynghyd â goruchwyliaeth addysgol effeithiol, yn lleihau straen a heriau posibl.

Arwyddion ac achosion

Efallai y byddwch chi’n adnabod yr ymddygiadau hyn sy’n arwydd o straen:

  • osgoi, er enghraifft, ei chael yn anodd gwneud penderfyniadau
  • aflonyddwch
  • unigolyn wedi’i barlysu gan berffeithrwydd
  • lefelau canolbwyntio is
  • ymddwyn yn drahaus / gorhyderus
  • ymatebion mwy dwys
  • effaith ar ffordd o fyw - arferion bwyta gwael; ddim yn cysgu; “colli allan” ar fywyd
  • boddhad parod.

Beth nesaf?

Gweithredwch yn gyflym ond yn sensitif, gan sicrhau cydbwysedd rhwng cyfrinachedd a diogelwch:

  • cymryd camau gweithredu ar unwaith pan ydych chi’n dod i wybod am bryderon
  • gofyn am dystiolaeth wedi'i dogfennu gan gydweithwyr perthnasol ac aelodau o'r tîm
  • siarad â'r hyfforddai a chofnodi'r cyfarfod
  • ystyried asesiadau priodol i gael gwybodaeth, ee, Adborth Aml-Ffynhonnell (MSF)
  • mae adborth yn bwysig; rhaid i'r hyfforddai fod yn ymwybodol bod pryderon wedi cael eu codi
  • peidiwch â delio â sefyllfaoedd anodd ar eich pen eich hun; gofynnwch i gydweithiwr ddod i’r cyfarfod gyda chi
  • mae adroddiad goruchwyliwr addysg yn hanfodol er mwyn rhoi sail i gynnydd yr hyfforddai
  • peidiwch ag aros tan yr adolygiad blynyddol nesaf i godi pryderon - dim byd annisgwyl yn yr adolygiad blynyddol (RITA / ARCP)
  • mae croeso i chi gysylltu â'r Uned Cymorth Proffesiynol i gael cymorth ar unrhyw adeg.

Rhesymau ac esboniadau sylfaenol

I roi cymorth llwyddiannus i hyfforddeion, mae angen dealltwriaeth fanwl o'r rhesymau sy’n sail i'r anhawster, er mwyn gallu ymyrryd yn bwrpasol i amgylchiadau, personoliaeth, gallu neu arddull dysgu'r unigolyn (ee, McManus et al, 2004). Gofynnwch i chi eich hun:

  • pam mae hyn yn digwydd i’r hyfforddai yma
  • pam nawr
  • pam yn y sefyllfa hon.

Efallai fod nifer o resymau.

Gallu - cyfyngiad sylfaenol a fydd yn ei atal rhag gallu gwneud ei swydd (ee, amhariad meddyliol neu ffisegol). Os felly, efallai fod angen ystyried newid ei rôl neu ei swydd.

Dysgu - diffyg sgiliau yn deillio o ddiffyg hyfforddiant neu addysg. Yn yr achosion hyn, mae addysg seiliedig ar sgiliau yn debygol o fod yn briodol, ar yr amod ei bod wedi’i theilwra i fod mor berthnasol â phosibl i arddull dysgu unigol y meddyg, ac yn realistig o ystyried yr adnoddau sydd ar gael.

Cymhelliant - llai o gymhelliant o ganlyniad i straen, diflastod, bwlio, neu ormod o waith; neu ormod o gymhelliant, methu dweud na, awyddus i blesio, ac ati. Yn yr achosion hyn, gallai rhyw fath o fentora, cwnsela neu fath arall o gymorth fod yn briodol, a/neu fynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â threfn, fel llwyth gwaith, camweithredu mewn tîm, neu anawsterau amgylcheddol eraill a allai fod yn effeithio ar gymhelliant.

Diffyg canolbwyntio - rhywbeth yn digwydd y tu allan i’r gwaith i dynnu sylw'r meddyg; neu rywbeth yn tynnu ei sylw yn yr amgylchedd gwaith (sŵn neu darfu; camweithredu mewn tîm). Efallai y bydd angen annog y meddyg i chwilio am gymorth proffesiynol os yw’r broblem y tu allan i’r gwaith.

Iechyd - problem iechyd acíwt neu gronig a allai effeithio ar allu, dysgu neu gymhelliant. Gallai Iechyd Galwedigaethol chwarae rôl yma; neu efallai fod angen annog y meddyg i fynd i weld ei feddyg teulu.

Dieithrwch - colli cymhelliant, diddordeb neu ymrwymiad i feddygaeth neu’r sefydliad yn llwyr, gan arwain at ymddygiad cas goddefol neu weithredol, “tanseilio” ac ati. Yn gyffredinol, ni all hyn gael ei unioni, a gall achosi niwed i eraill (cleifion a chydweithwyr) ac i'r sefydliad os caniateir i hyn barhau’n rhy hir. Dylai’r meddyg gael ei dynnu allan o’r sefydliad, a dylid rhoi pa bynnag gymorth neu fesurau disgyblu a ystyrir yn briodol ar waith.