Neidio i'r prif gynnwy

Atgyfeiriadau a mynediad at yr Uned Cymorth Proffesiynol

Arrow pointing a laptop and a smartphone

Gellir cael mynediad at yr Uned Cymorth Proffesiynol drwy hunanatgyfeiriad neu atgyfeiriad gan oruchwyliwr, cyfarwyddwr rhaglen neu arweinydd yr Uned Cymorth Proffesiynol. Os ydych chi’n atgyfeirio ar ran hyfforddeion, gwnewch yn siŵr eich bod yn trafod yr atgyfeiriad gyda nhw ac yn cael eu caniatâd.

Ni fydd yr Uned Cymorth Proffesiynol yn gallu ymgysylltu’n effeithiol â hyfforddai nad yw’n rhoi caniatâd i'r atgyfeiriad gael ei brosesu.

Pan fyddwch chi’n cysylltu â ni i hunanatgyfeirio neu i atgyfeirio rhywun arall, byddwn yn gofyn i chi am yr heriau a wynebir a’r amgylchiadau. Byddwn hefyd yn gofyn i chi ddweud wrthym beth yw'r canlyniadau rydych chi’n dymuno eu cael.

Uned Cymorth Proffesiynol Ffurflen Hunan-atgyfeirio  

 

A yw am ddim?

Mae adnoddau'r Uned Cymorth Proffesiynol am ddim i hyfforddeion meddygaeth, deintyddiaeth a fferylliaeth.