- Gwrando’n astud – gwneud amser i wrando a chlywed syniadau pawb, ac ymateb iddynt;
- Ceisio deall safbwyntiau gwahanol, a gweld pethau o safbwynt pobl eraill;
- Herio mewn modd adeiladol a gwrthrychol, ac ymdrin ag anghydfod yn gyflym ac yn barchus, gan gynnal urddas pobl;
- Parchu arbenigedd pobl eraill, ac ymddiried mewn pobl i gyflawni eu swyddi;
- Cymryd cyfrifoldeb personol dros ein gweithredoedd, a magu hyder i gyfaddef pan fyddwn yn gwneud camgymeriadau ac ymddiheuro am hyn;
- Trin pobl yn deg ac yn gyfiawn, yn unol â’u hanghenion;
- Gwerthfawrogi pob gwahaniaeth, ac nid dim ond cefndiroedd, profiad, a sgiliau proffesiynol.
|
- Ceisio canfod, cydnabod, a gwerthfawrogi’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiad sydd gan eraill o fewn AaGIC ac ar draws ein holl randdeiliaid;
- Croesawu cyfraniadau gan gydweithwyr a phartneriaid;
- Gweithio’n galed dros ein gilydd, rhoi o’n gorau p’un a ydym yn arwain neu’n cefnogi gwaith;
- Cydweithio;
- Agored a thryloyw, gan weithio tuag at amcanion cyffredin;
- Cael hwyl.
|
- Craedigol, chwilfrydig, a blaengar;
- Herio’r status quo, ac awgrymu atebion adeiladol;
- Mabwysiadu dull cadarnhaol o ymdrin â heriau a phroblemau;
- Hyrwyddo dulliau arloesi a gwella hyddysg i gleifion, staff, a dysgwyr;
- Grymuso staff, timau, a phartneriaid drwy roi’r sgiliau iddynt wella;
- Ceisio, ac ymateb i, adborth gan gleifion, dysgwyr, staff, a phartneriaid;
- Trafod a dathlu llwyddiant;
- Wynebu ein camgymeriadau, a dysgu ohonynt;
- Canolbwyntio ar "pam" - y pwrpas, a’r canlyniad;
- Creu ac amddiffyn amser a lle i fyfyrio a gwerthuso.
|
- Caniatáu i heriau, neu wahaniaeth barn, fynd yn bersonol;
- Ymddwyn mewn ffordd y gellid ei hystyried yn fwlio;
- Eithrio eraill;
- Ymddwyn mewn ffordd y gellid ei hystyried yn niweidiol;
- Dangos ffafriaeth;
- Tra-arglwyddiaethu ar drafodaethau neu ddulliau gweithredu.
|
- Cadw gwybodaeth berthnasol yn ôl;
- Anghofio cyfathrebu â’n gilydd;
- Dangos diffyg teyrngarwch tuag at ein gilydd ac AaGIC;
- Gweithio’n gaeth ar sail ffiniau diffiniedig.
|
- Ymddwyn mewn ffordd negyddol neu “methu gwneud”;
- Bod yn amddiffynnol wrth herio ffyrdd presennol o weithio;
- Meddwl mai ni sy’n gwybod orau;
- Caniatáu i rwystrau atal gwelliannau;
- Beio eraill am gamgymeriadau.
|