Rydym yn cydnabod y bydd rhanddeiliaid a phartneriaid yn amrywio o ran pynciau penodol cyfathrebu/ymgysylltu. Dyma restr gyffredinol o randdeiliaid a phartneriaid AaGIC, a gaiff ei fireinio yn dibynnu ar y pwnc ar gyfer cyfathrebu neu ymgysylltu.
• Gweithlu AaGIC
• Myfyrwyr a hyfforddeion iechyd a gofal gan gynnwys nyrsys, meddygon, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, gweithwyr cymorth gofal iechyd, fferyllwyr
• Defnyddwyr gwasanaethau – gan gynnwys hyfforddeion a myfyrwyr
• Y gweithlu iechyd a gofal-presennol ac yn y dyfodol
• Darparwyr addysg gan gynnwys prifysgolion, hyfforddwyr a mentoriaid
• Byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau
• Cyrff proffesiynol
• Rheoleiddwyr
• Undebau llafur
• Gofal Cymdeithasol Cymru
• Llywodraeth Cymru
• Byrddau partneriaeth
• Academi Cymru
• Cyfryngau – cyhoeddiadau arbenigol a chyfryngau prif ffrwd
• Cleifion/gofalwyr
• Y cyhoedd
• Y trydydd sector
• Sefydliadau Gyrfa
• Ysgolion
Mae deall yr hyn y mae ein partneriaid, rhanddeiliaid, a defnyddwyr gwasanaethau ei angen gennym, a sut y gallwn eu cefnogi orau, yn flaenoriaeth allweddol i AaGIC.
I gyflawni hyn, mae’n bwysig ein bod yn cyfathrebu ac yn ymgysylltu â hwy yn rheolaidd, a thrwy sianelau amrywiol.
Mae ein rhanddeiliaid wedi dweud wrthym sut maen nhw eisiau i’n dulliau o gyfathrebu ac ymgysylltu â hwy edrych:
Cyfathrebu | Ymgysylltu |
---|---|
Agored | Cydweithredol |
Clir | Arloesol/calonogol |
Cynhwysol | Cynrychioliadol |
Heb wahanu (e.e. clinigol ac anghlinigol) | Rhoi adborth/canlyniadau |
Eglur | Ymateb i gynulleidfaoedd |
Cadarnhaol | Mapio rhanddeiliaid i lywio’r fframwaith |
Dynamig a rhagweithiol | Lefelau gwahanol o berthynas a blaenoriaethau |
Cyson | Rheoli disgwyliadau |
Ysbrydoledig | Gwrando |
Cyffrous | Dwy ffordd |
Dylanwadol | Negeseuon priodol ar gyfer cynulleidfaoedd penodol |
Felly, gwnawn yr ymrwymiad canlynol: