Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth Bellach i Ymgeiswyr

Hands typing on a keyboard

Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i ymgeiswyr newydd yn unig. Gellir dod o hyd i bolisïau sy'n gymwys i feddygon sylfaen cyfredol o dan polisïau a gweithdrefnau.

Proses Cyd-Ddyrannu

Gall ymgeiswyr wneud cais am gymeradwyaeth ymlaen llaw i ysgol sylfaen oherwydd amgylchiadau arbennig, drwy broses UKFPO ffurfiol.

Bydd ymgeiswyr sydd wedi'u rhag-ddyrannu i Ysgol Sylfaen Cymru hefyd yn cael eu rhag-ddyrannu i grŵp a rhaglen sy’n unol â Pholisi Cyn Dyrannu Cymru.

Os bydd amgylchiadau ymgeisydd yn newid ar ôl y dyddiad cau, dylai gysylltu â'r  UKFPO cyn gynted â phosib.

Ceisiadau cysylltiedig

Pan fydd y ddau ymgeisydd cysylltiedig wedi'u dyrannu i Ysgol Sylfaen Cymru, bydd hyn yn parhau ar lefel grŵp.

Trosglwyddiadau y tu allan i Gymru neu o fewn Cymru

Yn gyffredinol, ni all ymgeiswyr newid eu Hysgol Sylfaen, rhanbarth neu ddyraniad rhaglen.

Os bydd amgylchiadau personol ymgeisydd yn newid ar ôl cyflwyno eu cais gwreiddiol, gellir gwneud cais am Drosglwyddiad Ysgol Rhyng-Sefydledig (IFST). Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn o dan polisïau a gweithdrefnau Sylfaen.

Gohiriadau

Bydd gohiriad 12 mis yn cael ei ystyried am resymau statudol (h.y. oherwydd absenoldeb iechyd neu absenoldeb rhiant). Rhowch wybod i'r Ysgol Sylfaen cyn gynted â phosibl i ofyn am ohiriad ac i ddarparu tystiolaeth berthnasol.

Cyfnod Sefydlu a Chysgodi

Rhaid i bob meddyg F1 sy'n dod i mewn mynychu cyfnod Sefydlu a Chysgodi gorfodol o 4 diwrnod cyn cychwyn ar ei Raglen Sylfaen yng Nghymru. Mae hyn fel arfer yn digwydd ar y dydd Iau, dydd Gwener, dydd Llun a dydd Mawrth cyn dyddiad cychwyn swyddogol y Rhaglen Sylfaen (sef y dydd Mercher cyntaf ym mis Awst). Efallai y bydd rhai ysbytai hefyd yn gofyn am gael rhywfaint o gysgodi neu hyfforddiant yn ystod y dydd Sadwrn neu'r dydd Sul yn ystod y cyfnod hwn. Mae'r dyddiadau penodol ar gyfer pob blwyddyn academaidd i'w gweld ar y dudalen Rhaglenni.

Gyflogwr Arweiniol Unigol

Mae pob Meddyg Iau yng Nghymru yn cael eu cyflogi gan Gyflogwr Arweiniol Unigol – Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP).

Mae NWSSP yn cydlynu’r holl faterion cyflogaeth, gan gynnwys gwiriadau cyn cyflogi, Tystysgrif Nawdd (COS) ar gyfer fisas, contractau cyflogaeth a  chadarnhad bandio, iechyd galwedigaethol, hawliadau treuliau,  y gyflogres ac adrodd ar fudd-daliadau, a gwasanaethau Adnoddau Dynol eraill. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y materion hyn, cysylltwch â nwsspsle am fwy o wybodaeth.

Llety Ysbyty ar y Safle

Yng Nghymru,mae byrddau iechyd wedi cytuno i ddarparu llety ar gyfer y 12 mis gyntaf o hyfforddiant F1 ar safle’r Ysbyty . Mae hwn am ddim, ond dal yn cael ei ystyried fel budd-dal trethadwy.

Sylwch mai llety person sengl yn unig sydd ar gael yn gyffredinol. Fodd bynnag, mae gan rai ysbytai lety cyfyngedig iawn ar gyfer cyplau neu deulu cyfyngedig am dâl ychwanegol. 

Polisi adleoli a theithio atodol

Mae gwybodaeth am gymhwystra i hawlio treuliau adleoli neu gostau teithio ychwanegol ar gael ar wefan Adleoli Cymru Gyfan. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â hyn, cysylltwch â Thîm Treuliau'r Meddygon Iau.