Neidio i'r prif gynnwy

Llai na hyfforddiant llawn amser

Mae hyfforddiant Llai na llawn amser (LTFT) yn gynllun lle gall meddygon a deintyddion dan hyfforddiant o bob gradd weithio'n rhan-amser. Mae llawer o resymau pam y gallai hyfforddeion fod eisiau gweithio'n rhan amser.

Mae AaGIC wedi ymrwymo i reoli'r cais am LTFT yn y fath fodd fel ei fod ar gael i gynifer o hyfforddeion â phosibl. Er mwyn caniatáu hyn, cyflwynwyd polisi LTFT newydd ym mis Hydref 2022. Gwelodd y polisi newydd newidiadau i'r meini prawf cymhwysedd, dileu'r gofyniad i adnewyddu gwaith papur LTFT rhwng lleoliadau a chyflwyno cyfnod ymgeisio i gefnogi'r broses mewn ffordd deg a thryloyw.

Unwaith y byddwch yn gwneud cais a bod eich cais yn cael ei gymeradwyo, cymerir yn ganiataol gan AaGIC y byddwch yn aros ar yr un ganran gweithio ar gyfer gweddill eich rhaglen hyfforddi oni bai bod cais dilynol yn cael eu gwneud.  Felly, mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â'ch Bwrdd Iechyd/Practis neu Fwrdd/Practis Iechyd y Dyfodol cyn eich cylchdro i'w gwneud yn ymwybodol o'ch dyddiau gwaith dewisol er mwyn helpu i reoli patrymau gwaith a rotas. Mae angen i'r holl randdeiliaid gytuno ar statws LTFT parhaus. Mae'n bosibl y bydd angen i'r hyfforddeion fod yn hyblyg os nad yw'r sefydliadau cynnal yn gallu darparu ar gyfer holl ddewisiadau'r hyfforddeion. Bydd gofyn i hyfforddeion gysylltu â’u sefydliadau cynnal i drefnu eu diwrnodau gwaith. Mae rhestr o gysylltiadau Byrddau iechyd ar gael.

Cyn cyflwyno eich cais digidol, mae AaGIC yn cynghori ymgeiswyr i: siarad â'u Cyfarwyddwr Rhaglen a darllen y Polisi LTFT i sicrhau dealltwriaeth lawn a chlir o'r broses a'r effaith y bydd newid i hyfforddiant LTFT yn ei chael ar eu rhaglen hyfforddi a'u cyflogaeth. 

Dogfenau Allweddol

 

Ar gyfer unrhyw ymholiadau, cliciwch isod i gysylltu gyda’r tîm perthnasol, gan ddefnyddio’r pwnc e-bost ‘Llai na Llawn Amser’.