Neidio i'r prif gynnwy

Hyfforddiant uwch seiciatreg oedolion cyffredinol

Mae ein rhaglen hyfforddi mewn seiciatreg Oedolion Cyffredinol (GA) yn gynllun mawr gyda swyddi yn Ne, Dwyrain, Gorllewin a Gogledd Cymru. Mae’r cynllun yn cynnig cyfleoedd ar gyfer ystod eang o brofiad clinigol, ynghyd â mynediad at adnoddau i ddatblygu addysgu, ymchwil, archwilio, rheoli ac arweinyddiaeth.

Cynigir rhaglen hyfforddi dair blynedd i hyfforddeion gyda swyddi clinigol mewn amrywiaeth o leoliadau, mewn canolfannau addysgu ac ysbytai cyffredinol dosbarth, sy’n gwasanaethu poblogaethau trefol a gwledig mewn chwe bwrdd iechyd ledled Cymru.

Bydd hyfforddeion yn gweithio mewn gwahanol leoliadau clinigol i gael profiad gyda chleifion mewnol a chleifion yn y gymuned. Hefyd, mae cyfleoedd i weithio mewn timau arbenigol fel:

  • timau ymyrraeth gynnar
  • timau yn y cartref i ddatrys argyfyngau
  • niwroseiciatreg
  • gwasanaeth anhwylderau bwyta.

Mae hyfforddeion yn cael cyfle i gael ardystiad mewn adsefydlu, cyswllt neu gamddefnyddio sylweddau, gyda sawl swydd ar gael ym mhob un o’r is-arbenigeddau hyn.

Gall pob hyfforddai ddilyn sesiynau Diddordeb Arbennig mewn gwasanaethau fel clinigau ADHD, gwasanaeth niwroseiciatreg a seicotherapi.

Mae dyddiau addysgol i uwch ar gyfer hyfforddeion yn cael eu trefnu gan bwyllgor o hyfforddeion sy’n cael eu hethol i’r swydd hon gan eu cymheiriaid. Drwy gydol yr hyfforddiant bydd hyfforddeion yn cymryd rhan mewn addysgu, hyfforddi a goruchwylio gan gynnwys y cwrs MRCPsych ac addysgu myfyrwyr meddygaeth. Bydd hyfforddeion yn cael cyfle i ddilyn cyrsiau rheoli sy’n berthnasol i’w hanghenion.

Mae cyfleoedd ymchwil ar gael ym mhob lleoliad i hyfforddeion ac mae gan y cynllun hyfforddi gysylltiadau cryf ag adrannau academaidd prifysgolion lleol a bydd goruchwyliaeth ar gael i’r sawl a hoffai gael gradd ymchwil uwch.

Dyrennir Goruchwyliwr Addysgol i bob hyfforddai (sydd wedi’u hachredu gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)) sy’n goruchwylio tair blynedd lawn yr hyfforddiant. Hefyd, mae gan hyfforddeion Oruchwyliwr Clinigol ar gyfer pob un o’u lleoliadau.

Cysylltiadau

Cyfarwyddwr y rhaglen hyfforddi ar gyfer seiciatreg oedolion cyffredinol yng Nghymru yw Dr Somashekara Shivashankar. Mae croeso i ddarpar ymgeiswyr i gysylltu ag ef drwy e-bost gydag unrhyw gwestiynau’n ymwneud â’r rhaglen.