Neidio i'r prif gynnwy

Dermatoleg

Mae rhaglen dermatoleg Cymru wedi’i rhannu rhwng de a gogledd Cymru, gydag ymgeiswyr yn gweithio naill ai yn y de neu’r gogledd am bedair blynedd. Nid oes disgwyl i ymgeiswyr gylchdroi rhwng y de a’r gogledd.

Mae rhaglen y De yn cylchdroi rhwng safleoedd gan gynnwys Pen-y-bont ar Ogwr, Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd. Mae rhaglen y Gogledd yn cylchdroi rhwng y tri safle ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Wrecsam (dwy flynedd), Glan Clwyd a Bangor (blwyddyn yr un).

Dermatoleg yw un o’r arbenigeddau mwyaf amrywiol i feddygon, sy’n caniatáu ar gyfer opsiynau i weld cleifion o bob grŵp oedran sydd ag anhwylderau croen llidiol, etifeddol, amgylcheddol, galwedigaethol neu falaen.

Ar hyn o bryd, clefydau’r croen yw un o’r prif resymau pam mae cleifion yn gweld meddyg, ac o gofio’r cynnydd a welwyd mewn canser y croen a chyflyrau llidiol fel ecsema, nid oes dim amheuaeth y bydd dermatoleg yn dal i dyfu yn y dyfodol. Mae angen parhaus am glinigau a gwasanaethau dermatoleg eilaidd seiliedig ar ofal yn genedlaethol, er bod elfennau o waith cleifion allanol yn cael ei wneud mewn lleoliadau eraill mewn rhai rhannau o’r DU, er enghraifft mewn ysbytai cymunedol. Mae dermatoleg arbenigol yn cynnwys gwaith â chleifion allanol yn bennaf i wneud diagnosis, ymchwiliadau ac i drin gyda chymorth cyfleusterau cleifion mewnol wedi’u staffio’n briodol ar gyfer anhwylderau llidiol difrifol.

Mewn ysbytai ymgynghorir â dermatolegwyr yn aml ynglŷn â chleifion sydd dan ofal arbenigwyr eraill ac yn aml byddant yn rheoli cleifion ar y cyd e.e. rhai ag anhwylderau meinwe gysylltiol. Ymdrinnir â chanser y croen drwy dimau amlddisgyblaethol sy’n cynnwys cysylltiadau clos â chydweithwyr plastig, ENT a llawdriniaeth wyneb maxillo a hefyd ag oncoleg glinigol a meddygol.

Dermatoleg yw un o’r ychydig arbenigeddau sy’n weddill sydd ag amrywiaeth eang o waith. Maent yn gweithio â phob grŵp oedran ac mae achosion yn amrywio o ganser i anhwylderau llidiol. Mae gwaith clinigol, llawfeddygol a ward i gyd yn chwarae eu rhan yn wythnos waith nodweddiadol dermatolegydd gyda rhai yn dewis is-arbenigo mewn meysydd fel:

  • dermatoleg bediatrig
  • alergeddau croenol
  • llawfeddygaeth ddermatolegol
  • dermatoleg ffoto
  • canser y croen
  • ymchwil.

Hefyd, mae dermatopatholeg, laserau a ffototherapi yn feysydd y byddwch yn dod i gysylltiad â hwy. Yng Nghymru mae sesiwn addysgu wythnosol reolaidd sy’n cynnwys sesiwn ddermatopatholeg ragorol ac mae cyfleoedd i ddysgu llawfeddygaeth ficrograffig Mohs yn ogystal â lleoliadau alergeddau croenol a ffotobioleg/ffototherapi. Mae gennym wasanaeth lymffoma pwrpasol ac sy’n gartref i’r Mynegai Ansawdd Bywyd Dermatoleg sy’n adnabyddus drwy’r byd.

Bydd digon o gyfleoedd hefyd i gymryd rhan mewn ymchwil ac i gyfranogi mewn cyfarfodydd clinigol ac ymchwil cenedlaethol a lleol. Mae hyfforddiant generig mewn sgiliau addysgu, ymchwil, rheoli a chyflwyno i gyd yn rhan o’r rhaglen hyfforddi yng Nghymru.

Bydd hyfforddeion sy’n ymuno â’r rhaglen ddermatoleg bedair blynedd yn gwneud hynny ar ôl hyfforddiant meddygol craidd. Mae’r defnydd cynyddol o driniaethau systemig ar gyfer cyflyrau llidiol yn golygu y bydd gwybodaeth gadarn am feddygaeth gyffredinol yn parhau’n amod ar gyfer dermatolegwyr y dyfodol.

I’r sawl sydd mewn hyfforddiant, mae asesiadau seiliedig ar gymwyseddau yn bod ar ffurf mân CEX, DOPs a MSF. Roedd dermatoleg hefyd yn un o’r arbenigeddau a oedd yn rhan o asesiad peilot seiliedig ar wybodaeth yn 2006 ac mae’n debygol y bydd hwn wedi’i ddatblygu llawn i’w ddefnyddio yn y dyfodol agos.

Manylion cyswllt

Dolenni defnyddiol