Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Technegwyr Fferyllol Cyn-cofrestru (PRPT)

Mae AaGIC yn darparu rhaglen hyfforddiant Technegwyr Fferyllol Cyn-cofrestru drwy gyfrwng Fframwaith Prentisiaeth Fodern a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r rhaglen hyfforddiant ‘seiliedig ar waith’ yn cael ei chyflwyno drwy gyfrwng dysgu cyfunol gyda chymysgedd o ddigwyddiadau astudio ac asesiadau rheoledig rhithwir ac wyneb yn wyneb. Mae'n ofynnol i dechnegwyr fferyllol cyn-cofrestru (PRPT) arddangos eu gwybodaeth a'u cymhwysedd mewn lleoliad fferyllol.

Er mwyn cwblhau’r rhaglen hyfforddiant rhaid i unigolion gael eu cyflogi mewn lleoliad fferyllol.

Y meini prawf mynediad ar gyfer y rhaglen hyfforddiant yw lleiafswm o bedwar TGAU gradd A* - C (graddau newydd 9 - 4) neu gyfwerth gan gynnwys:

  • TGAU Saesneg, Gradd C/Lefel 4 neu uwch

                       • TGAU Mathemateg Gradd C/Lefel 4 neu uwch

                       • TGAU Gwyddoniaeth Gradd C/Lefel 4 neu uwch neu Gymhwyster Cenedlaethol yr Alban 5 neu gyfwerth

 

  Am ragor o wybodaeth, cysylltwch  â HEIWPrptprogramme@wales.nhs.uk