Neidio i'r prif gynnwy

Hyfforddiant fferyllwyr sylfaen ôl-gofrestru yng Nghymru

Mae'r rhaglen hon ar gyfer fferyllwyr gyrfa gynnar (hyd at 24 mis cymwys) ac mae'n cynnig cyfle i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau ac ymddygiadau i ymarfer yn hyderus mewn unrhyw sector, ar lefel sylfaen ôl-gofrestru gyffredinol.

Byddwch yn ennill 80 credyd ôl-raddedig (PG), tystysgrif ymarfer Rhagnodi Annibynnol (IP) o Brifysgol Caerdydd, a chredyd Sefydliad Ôl-gofrestru y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol. Ar ôl ei gwblhau, gellir ymgymryd â chredydau PG ychwanegol i ennill dyfarniad diploma.

Mae'r rhaglen yn darparu amser gwarchodedig penodol yn ymarferol gyda chymorth goruchwyliwr addysgol, goruchwyliwr practis, ac ymarferydd rhagnodi dynodedig.

Dyrennir swyddi i gyflogwyr yng Nghymru ar gyfer y rhaglen hon i gefnogi datblygiad eu cofrestreion fferyllydd gyrfa gynnar.