Croeso i Her 7. Ar gyfer y trydydd senario sy'n seiliedig ar ymarfer, rydym yn archwilio rhwystrau ieithyddol a’r dulliau y gellir eu defnyddio i alluogi cyfathrebu mwy effeithiol.
Gall dewis iaith fod yn rhywbeth sy'n angenrheidiol yn hytrach nac yn ddewis i rai cleifion. Gall ansawdd gofal gael ei beryglu gan y methiant i gyfathrebu â phobl yn eu hiaith ddewisol a gall rhwystrau ieithyddol achosi risg iechyd difrifol. Mae'n bwysig i weithwyr gofal iechyd proffesiynol reoli'r risg hon yn briodol er mwyn sicrhau bod unrhyw wybodaeth a gaiff ei chyfleu yn gywir ac yn cael ei deall gan y claf.
Yna cymerwch ychydig o amser i fyfyrio ar eich ymarfer eich hun ac unrhyw anghenion dysgu a nodwyd. Os ydych wedi nodi unrhyw anghenion dysgu ychwanegol, neu os hoffech ddatblygu eich dysgu ymhellach, bydd adnodd cyfeirio ar gael ar ddiwedd yr ymgyrch a fydd yn darparu dolenni i becynnau darllen ac e-ddysgu ychwanegol.
Er bod y senario hwn yn ymwneud â fferylliaeth gymunedol, gellir defnyddio'r dysgu ar draws pob sector ymarfer.
I gael rhagor o wybodaeth am yr iaith Gymraeg o fewn Gofal Sylfaenol cliciwch yma.