Neidio i'r prif gynnwy

Her 10 - Gwnewch addewid trwy'r RPS

Nawr eich bod yn wynebu her olaf yr ymgyrch hon, rydym yn eich annog i ddangos eich ymrwymiad i weithio tuag at broffesiwn cynhwysol sy'n dathlu a choleddu amrywiaeth ac yn cefnogi diwylliant o berthyn.


Gwnewch adduned i'r RPS drwy ymweld yma.

 

Yn ystod yr ymgyrch, efallai eich bod wedi nodi rhai anghenion dysgu pellach. Rydym wedi datblygu offeryn cyfeirio sy'n cynnwys ystod o adnoddau, mewn amrywiaeth o ffurfiau, i gefnogi’ch siwrnai ddysgu mewn meysydd sydd o ddiddordeb i chi. Mae'r adnoddau sydd ynghlwm â’r offeryn hwn yn ymdrin ag ystod eang o bynciau gan gynnwys themâu allweddol yr ymgyrch hon a llawer mwy. Mae AaGIC wedi ymrwymo i gefnogi’ch dysg a byddant yn parhau i ddiweddaru'r adnodd hwn ynghyd â datblygu cyfleoedd dysgu pellach megis gweminarau a phecynnau e-ddysgu.

Diolch am gymryd rhan yn yr ymgyrch hon.

Rydym yn gobeithio’ch bod wedi mwynhau mynd i’r afael â’r heriau a'u bod wedi’ch helpu i fyfyrio ar eich cymhwysedd eich hun o ran tegwch diwylliannol ac wedi cyfnerthu datblygiad eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o bobl sy’n perthyn i ddiwylliannau gwahanol i'ch rhai chi.

Os gwnaethoch fethu Her 9, rydym yn eich croesawu i lenwi'r ffurflen adborth hon i’n hysbysu ynghylch sut y gallwn ddatblygu a gwella'r adnoddau a ddarperir mewn ymgyrchoedd yn y dyfodol.