Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Ymwrthedd Gwrthficrobaidd y Byd (WAAW) a Diwrnod Ymwybyddiaeth Gwrthfiotigau Ewropeaidd (EAAD) yn ymgyrchoedd sy'n canolbwyntio ar ymwrthedd a stiwardiaeth gwrthficrobaidd.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi datgan fod ymwrthedd gwrthficrobaidd yn un o’r 10 bygythiad iechyd cyhoeddus byd-eang mwyaf sy’n wynebu dynoliaeth. Mae gan bob un ohonom rôl i’w chwarae wrth godi ymwybyddiaeth o ymwrthedd a stiwardiaeth gwrthficrobaidd.
Eleni mae themâu'r ymgyrchoedd ymwybyddiaeth cenedlaethol yn canolbwyntio ar:
Isod fe welwch amrywiaeth o adnoddau ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ar y pynciau uchod. (Sylwch: Cynhyrchwyd rhywfaint o gynnwys yn wreiddiol ar gyfer 2022 ond mae wedi'i gymeradwyo i'w ddefnyddio ar gyfer 23/24).
Tra'n bod ni'n aros i bob proffesiwn symud i lwyfan dysgu ar draws AaGIC - Y Ty Dysgu- mae'r weminar hon yn cael ei chynnal ar wefan fferyllaeth sy'n gofyn i chi fewngofnodi. Os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer mewngofnodi o'r blaen gallwch wneud hynny yma. Mae angen cymeradwyaeth â llaw ar weithwyr proffesiynol sy’n gweithio tu allan i fferyllaeth, felly caniatewch 2 ddiwrnod gwaith ar gyfer hyn.
Mae rhagor o wybodaeth am sut i ddod o hyd i’r ystafell weminar/recordiad ar gael yma. Rydyn ni'n argymell mewngofnodi ac allan o'r system i adnewyddu'r dudalen cyn gwylio.
1. Haint anadlol acíwt
2. Ymwybyddiaeth o Wrthfiotigau: Newid o Lwybr Mewnwythiennol (IV) i un Geneuol
Am ragor o wybodaeth ac i gael mynediad i'r gweminar, cliciwch yma.
3. Haint Clostridioides Difficile: diweddariad
Am ragor o wybodaeth ac i gael mynediad i'r gweminar, cliciwch yma.
4. Gwrthfiotigau Hirdymor a Phroffylactig
Am ragor o wybodaeth ac i gael mynediad i'r gweminar, cliciwch yma.
- Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan: Rheoli haint Clostridioides difficile yng Nghymru
Bydd y pecynnau e-ddysgu hyn ar gael yn fuan ar ôl mudo i'n system rheoli dysgu newydd, Y Ty Dysgu.
1. Stiwardiaeth Gwrthficrobaidd ac Ymwrthedd i Ragnodwyr
2. Stiwardiaeth Gwrthficrobaidd ar gyfer Fferylliaeth Gymunedol