Neidio i'r prif gynnwy

Cwestiynau Ymgynghori ar gyfer Fframwaith Prentisiaethau Cymru ar gyfer Gwybodeg Iechyd

Mae AaGIC, fel partner datblygu ar gyfer y Prentisiaethau Gofal Iechyd, wedi bod yn arwain ar adolygiad o'r Llwybr Prentisiaeth Gwybodeg Iechyd.   Sefydlwyd grŵp llywio i oruchwylio'r gwaith hwn gydag aelodaeth o du AaGIC, GIG Cymru, darparwyr addysg a hyfforddiant, Llywodraeth Cymru, Cymwysterau Cymru a'r sector annibynnol.

Mae’r Llwybr adolygedig hwn yn gwneud cynnig i gynnwys cymwysterau ar Lefelau 2 a 3 yn ogystal â'r cymhwyster Cydymaith Gwyddor Gofal Iechyd Lefel 4, sydd eisoes yn yr arlwy fel Prentisiaeth.

Cynhelir yr ymgynghoriad rhwng dydd Llun 20 Mawrth a dydd Llun 17 Ebrill 2023. Byddai AaGIC yn gwerthfawrogi’ch barn ar y Llwybr adolygedig.


Sut i ymateb i'r ymgynghoriad:

Gallwch gael mynediad i'r fframwaith drafft i'w adolygu yma.

 

Dogfennau ategol:

Gallwch ymateb i'r ymgynghoriad trwy Microsoft Forms, yma.