Neidio i'r prif gynnwy

Datblygu gweithwyr cymorth gofal iechyd

Dau nyrs yn siarad

Nyrsio a Gweithwyr Cymorth Proffesiynol Perthynol i Iechyd

Cytunwyd yn 2015ar Fframwaith Gyrfa ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd (HCSW) sy’n gweithio fel Nyrsys neu Weithwyr Cymorth Proffesiynol Perthynol i Iechyd. Diben y Fframwaith hwn yw sicrhau mecanwaith llywodraethu i lywio sgiliau a datblygiad gyrfa’r Gweithlu Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd (HCSW) yn GIG Cymru.

Mae’r Fframwaith wedi’i ddatblygu i wneud defnydd effeithiol o alluoedd cyflogeion ochr yn ochr â’r newid yn anghenion y sefydliad. Nid yw, fodd bynnag, yn fecanwaith sy’n gwarantu llwybr awtomatig i ddyrchafiad. Mae wedi’i seilio ar y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) a chymwyseddau, sy’n rhoi pwyslais ar y sgiliau a’r wybodaeth yn hytrach nag ar swyddi neu rolau. O ganlyniad, mae’r dull hwn yn caniatáu mwy o hyblygrwydd a throsglwyddo. Mi allai unigolion symud o weithio i un sefydliad i un arall, neu mi allai unigolion symud o un arbenigedd/maes gwaith e.e. iechyd meddwl i wasanaethau deietetig.

Cynefino clinigol

Mae gofyniad at bob gweithiwr cymorth gofal iechyd newydd i fynychu rhaglen gynefino clinigol achrededig Cymru gyfan y GIG. Dyma gam cyntaf y Fframwaith.

Cyfleusterau

Gan adeiladu ar ddatblygiad Fframweithiau Gyrfa ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd sy’n gweithio fel Nyrsys neu Weithwyr Cymorth Proffesiynol Perthynol i Iechyd (2015), mae GIG Cymru wedi nodi ac adolygu’r rhaglenni addysgol a hyfforddiant sydd ar gael i staff anghlinigol.

Fel rhan o’r adolygiad cafodd y cymhwyster Diploma Lefel 2 mewn Gwasanaethau Cyfleusterau ar gyfer Gofal Iechyd yng Nghymru, a’r Diploma Lefel 3 mewn Rheoli Gofal Iechyd eu datblygu. Bydd y cymwysterau hyn yn cynorthwyo datblygiad gyrfa staff Cyfleusterau a byddant yn sail i fecanwaith llywodraethu ar gyfer y gweithlu Gweithwyr Cymorth Cyfleusterau yn GIG Cymru.

Gwyddor Gofal Iechyd

Mae cymwysterau wedi’u datblygu yn Lefelau 3 a 4 i hybu datblygiad staff sy’n gweithio ym Mandiau 2, 3 a 4 mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau gwyddor gofal iechyd. Mae unedau dysgu gorfodol cyffredin ar y ddwy lefel ac yna unedau dewisol penodol sy’n berthnasol i rolau a lleoliadau gweithio’r unigolyn sy’n dilyn y cymwysterau.

Gweithlu Cefnogi Nyrsio

Gallwch ddod o hyd i linell amser y Gweithlu Cymorth Nyrsio yma.

Mae’r cynnydd a wnaed gan Grŵp Ymarferwyr Cynorthwyol Cymru Gyfan 2022-2023 i’w weld yma.

Mae’r llwybrau i gofrestru ar gyfer nyrsio i’w gweld yma: