Mae’r adran hon o’r wefan yn cynnwys manylion am y gwahanol fathau o ddysgu Seiliedig ar Waith achrededig sydd ar gael i staff gofal iechyd. Mae achredu’r addysg yn sicrhau ei bod yn drosglwyddadwy pe bai unigolyn yn dymuno symud o un sefydliad i un arall.
Mae addysg a hyfforddiant yn hanfodol i ddatblygiad gweithlu gofal iechyd diogel ac effeithiol. Un o rolau allweddol AaGIC yw gweithio â rhanddeiliaid i ddatblygu addysg a hyfforddiant sydd nid yn unig yn diwallu anghenion presennol ond a fydd hefyd yn sail i ddatblygiad unrhyw rolau a modelau darparu gwasanaethau newydd.