Neidio i'r prif gynnwy

Gogledd Cymru

Mae Blwyddyn Sylfaen Ddeintyddol Gogledd Cymru yn gynllun sefydledig gyda’i gymeriad unigryw ei hun. Fe’i sefydlwyd ym 1989, ac mae wedi bod yn boblogaidd iawn gyda hyfforddeion dros y blynyddoedd ac wedi lansio llawer o yrfaoedd llwyddiannus.

Mae Gogledd Cymru yn enwog am ei golygfeydd arfordirol deniadol, ei thirwedd mynyddig a’i safleoedd hanesyddol. Mae cyfleoedd lawer ar gael ar gyfer gweithgareddau awyr agored gan gynnwys dringo, cerdded, canŵio a hwylio. Mae’r Ganolfan Chwaraeon Dŵr Genedlaethol ym Mhlas Menai ger Caernarfon ac mae’r Ganolfan Fynydda Genedlaethol, Plas y Brenin, yng Nghapel Curig. Mae cysylltiadau trafnidiaeth rhagorol i Gaer, Lerpwl, Manceinion a Dulyn.

Lleolir y cynllun ei hun yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, ger y Rhyl ar yr A55 i Ogledd Cymru o Gaer. Mae gan y ganolfan ôl-radd enw da am fod yn gyfeillgar a chewch awyrgylch cefnogol iawn gan holl staff y ganolfan ac ymgynghorwyr yr ysbyty.

Ased mwyaf y cynllun yw profiad y Goruchwylwyr Addysg a rhagoriaeth eu practisiau. Mae ein cynllun yn cynnig cyfleoedd mewn deintyddfeydd gwledig, o ardaloedd fel Ynys Môn yn y gogledd orllewin , i lawr i’r Drenewydd yn y Canolbarth. Fel arall, mae yna ddeintyddfeydd trefol yn nes at Wrecsam, yr Wyddgrug a’r ffin ger Caer.

Mae’r rhan fwyaf o Oruchwylwyr Addysg wedi bod yn croesawu deintyddion ifanc i’w practis ers blynyddoedd lawer ac mae eu timau’n aml yn cynnwys cyn hyfforddeion (sydd bellach yn edrych yn llawer hŷn!). Mae eu timau proffesiynol yn brofiadol iawn o ran sicrhau y bydd eich blwyddyn gyntaf yn gofiadwy, yn ddiogel ac yn bleserus. Ym mhob practis hyfforddi, fe’ch anogir i ddarparu gofal deintyddol o’r safon uchaf. Ceir cyfleoedd i fynychu cyrsiau pellach a drefnir gan y Ddeoniaeth yng Ngogledd Cymru a mynd i glinigau Ymgynghorol lle bo hynny’n briodol.

Mae gan y Cwrs rhyddhau am ddiwrnod yn Ysbyty Glan Clwyd gyfleusterau ardderchog gyda llyfrgell helaeth, ystafell TG ac ystafell hyfforddi bwrpasol.

Cymhwysodd Adrian Thorp, Cyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddi i’r cynllun, o Brifysgol Lerpwl ym 1999 ac yna bu’n gweithio mewn ysbyty yn llawn amser i ddechrau ond yna’n rhan amser fel Arbenigwr Cyswllt mewn Llawfeddygaeth y Geg a Geneuol-wynebol ar ôl penderfynu prynu practis gyda saith deintyddfa yng Ngogledd Cymru. Cwblhaodd Adrian ei M Surg Dent a rhoddwyd ei enw ar y Rhestr o Arbenigwyr Llawfeddygaeth y Geg yn 2009. Yn 2016, cwblhaodd ei gymhwyster mewn Llawfeddygaeth Ddeintyddol (FDS), yng Ngholeg Brenhinol y Llawfeddygon (RCS). A chanddo ddiddordeb brwd yn y Gyfraith ym maes Deintyddiaeth a Llawfeddygaeth y Geg, cwblhaodd Radd yn y Gyfraith yn 2017, ac erbyn hyn mae’n ymwneud yn helaeth ag adroddiadau meddygol-cyfreithiol. Ar hyn o bryd mae Adrian yn ymgymryd â Thystysgrif ôl-raddedig mewn Addysg Feddygol ac mae'n arholwr ar gyfer y Diploma yn Llawfeddygaeth y Geg ac Aelodaeth o'r Cydadrannau Deintyddol (MJDF).

Mae’r Rhaglen Rhyddhau am Ddiwrnod ei hun yn amrywiol iawn gyda sesiynau addysgu mewn grwpiau bach, ymarferol. Fe’ch anogir i ystyried ein cynllun hyfforddi ail flwyddyn (Hyfforddiant Craidd Deintyddol (DCT))1), sydd hefyd yn cael ei redeg o’r un ganolfan.

Os oes gennych chi ddiddordeb, os ydych yn frwdfrydig, gyda’r awydd i barhau â’ch hyfforddiant mewn amgylchedd addysgol cwbl gefnogol a chyfeillgar, mewn ardal sydd ag amrywiaeth o gyfleusterau a chyfleoedd, byddem wrth ein bodd yn cwrdd â chi.

Gwyliwch y fideo isod i weld hyfforddai blaenorol ar gynllun Gogledd Cymru yn trafod ei brofiad.

Cysylltu: