Neidio i'r prif gynnwy

Casnewydd a Dwyrain Cymru

Mae Cynllun Casnewydd a Dwyrain Cymru fel arfer yn cynnwys deintyddfeydd o fewn pellter gyrru hawdd i Gaerdydd a Chasnewydd. Mae gan y practisiau offer digonol, staff da a digon o gleifion. Bydd y deintyddion lefel sylfaen yn cael llawer o brofiad o ddeintyddiaeth glinigol reolaidd a byddant hefyd yn elwa o ddiddordebau arbennig y Goruchwylwyr Addysg.

Mae’r ardaloedd cyfagos yn gymysgedd o ddinasoedd gyda siopau da ac adloniant yn ogystal â chefn gwlad hyfryd gyda gweithgareddau chwaraeon ac awyr agored da.

Mae’r diwrnodau astudio wedi’u lleoli yn y Ganolfan Ddeintyddol i Ôl-raddedigion, yn adeilad Academaidd Ysbyty Llandoche sydd â mynediad hwylus a digon o le parcio ar y safle, fel arfer ar ddydd Iau bob wythnos. Mae gan y Ganolfan gyfleusterau ardderchog, gan gynnwys unedau deintyddol ar gyfer hyfforddiant ymarferol, darlithfeydd ac ystafelloedd seminar gyda’r offer angenrheidiol, cyfleusterau TG a llyfrgell. Mae ffreutur a chaffi ar y safle.

Mae rhaglen diwrnod astudio Dwyrain Cymru yn gymysgedd amrywiol o sesiynau clinigol ymarferol gyda sesiynau ymarferol, seminarau, cyflwyniadau a chynadleddau preswyl.

Mae gan Gaerdydd gyfleoedd rhagorol o ran chwaraeon rhyngwladol a diwylliant ac mae’n ddinas fywiog a hyfryd sy’n darparu ar gyfer pob chwaeth. Caerdydd yw cartref Stadiwm y Mileniwm a llawer o adeiladau deddfwriaethol. Mae’n ddinas sy’n meddu ar dreftadaeth ac uchelgais ac mae ganddi gysylltiadau ffyrdd, rheilffyrdd a meysydd awyr rhagorol. Mae llawer o hyfforddeion, ar ôl cwblhau eu blwyddyn hyfforddi, yn hapus i setlo yn yr ardal.

Catherine Nelson yw Cyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddi ar gyfer Cynllun Casnewydd a Dwyrain Cymru. Cyn hynny, bu Catherine yn TPD ar gyfer Cynllun Telford yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr am saith mlynedd, cyn symud i dde Cymru dair blynedd yn ôl.

Nod Catherine yw sicrhau bod gan y Deintyddion ar Gynllun Casnewydd a Dwyrain Cymru flwyddyn hyfforddi dda a bod popeth yn rhedeg yn llyfn ac yn effeithlon. Mae hi’n gobeithio y bydd Cynllun Casnewydd a Dwyrain Cymru yn parhau i fod yn amgylchedd cyfeillgar, cefnogol ac effeithiol i ddeintyddion lefel sylfaen osod sylfeini da ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

Mae Catherine yn angerddol ynghylch cyfleoedd mewn deintyddiaeth gyffredinol a llwybrau gyrfa i ddeintyddion. Mae’n llwyddo i ddal i weithio mewn Practis Deintyddol Cyffredinol am un diwrnod yr wythnos. Cyn hynny, sefydlodd a rhedodd 6 deintyddfa, practis y GIG yn bennaf, yn Swydd Amwythig am 15 mlynedd. Roedd y practis wedi ymrwymo i hyfforddi deintyddion ac aelodau eraill o’r Tîm Deintyddol ehangach. Ar hyn o bryd mae Catherine hefyd yn Uwch Oruchwyliwr Addysg yn yr Uned Addysgu Deintyddol ym Maglan ac yn Gyfarwyddwr Meddygol Cyswllt ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Gwyliwch y fideo isod i weld hyfforddai blaenorol ar gynllun Casnewydd a Dwyrain Cymru yn trafod ei brofiad:

Cysylltu:
Catherine Nelson, Cyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddi
Jayne Davies, Gweinyddwraig y Sefydliad Deintyddol