Neidio i'r prif gynnwy

Bro Abertawe

Mae Cynllun Bro Abertawe fel arfer yn cynnwys deintyddfeydd o fewn pellter gyrru rhesymol i Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr a Phort Talbot. Mae gan y deintyddfeydd offer digonol, staff da a digon o gleifion. Bydd y deintyddion deintyddiaeth sylfaenol yn cael llawer o brofiad o ddeintyddiaeth glinigol reolaidd a byddant hefyd yn elwa o ddiddordebau arbennig y Goruchwylwyr Addysg eu hunain.

Yn yr ardaloedd cyfagos mae dinasoedd gyda siopau da ac adloniant yn ogystal â chefn gwlad hyfryd gyda gweithgareddau chwaraeon ac awyr agored da.

Mae’r diwrnodau astudio wedi’u lleoli yn yr uned Ddeintyddol i Ôl-raddedigion, Ysbyty’r Tywysog Siarl, Merthyr Tudful, sy’n hygyrch gyda digon o le parcio ar y safle. Mae’r rhain fel arfer ar ddydd Mawrth bob wythnos. Mae gan yr Uned gyfleusterau ardderchog, gan gynnwys unedau deintyddol ar gyfer hyfforddiant ymarferol, darlithfeydd ac ystafelloedd seminar gyda’r offer angenrheidiol, cyfleusterau TG a llyfrgell. Mae ffreutur a chaffi ar y safle.

Mae rhaglen diwrnod astudio Bro Abertawe yn gymysgedd amrywiol o sesiynau clinigol ymarferol gyda sesiynau ymarferol, seminarau, cyflwyniadau a chynadleddau preswyl.

Mae Caerdydd yn cynnig cyfleoedd rhagorol o ran chwaraeon rhyngwladol a diwylliant ac mae’n ddinas fywiog a hyfryd sy’n cynnig rhywbeth i bawb Caerdydd yw cartref Stadiwm y Mileniwm a llawer o adeiladau deddfwriaethol. Mae’n ddinas sy’n meddu ar dreftadaeth ac uchelgais ac mae ganddi gysylltiadau ffyrdd, rheilffyrdd a meysydd awyr rhagorol. Mae llawer o hyfforddeion, ar ôl cwblhau eu blwyddyn hyfforddi, yn hapus i setlo yn yr ardal.

Cyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddi (TPD) ar gyfer y cynllun hwn yw Dr David Hannington BDS (Lon), MGDP (UK), PGDip (MedEd), FDTFEd, FHEA. Cymhwysodd David Hannington o Ysgol Ddeintyddol Ysbyty Guys ym 1986. Bu’n gweithio ym maes gofal sylfaenol am bron i ddeng mlynedd ar hugain fel aelod o bractis, perchennog practis darparwr ac hyfforddwr deintyddiaeth sylfaenol lawer gwaith.

Mae gan David gysylltiad hir ag addysg ôl-radd ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC). Yn 2003 sefydlodd y cynllun hyfforddiant sylfaenol cyntaf ar gyfer therapyddion deintyddol mewn practis cyffredinol. Mae David yn gweithredu fel Cynghorydd Practisiau Deintyddol i ddau o Fyrddau Iechyd Lleol Cymru a hefyd i Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae ganddo brofiad helaeth o reoli materion sy’n ymwneud â chontractau, deddfwriaeth a pherfformiad. Mae hefyd yn gweithio gydag Arolygiaeth Iechyd Cymru a Llywodraeth Cymru mewn perthynas â materion llywodraethiant glinigol.

Mae David wedi ymrwymo i waith tîm a hyfforddiant ym maes deintyddiaeth gyffredinol gan gynhyrchu gofal o safon i gleifion.

Gwyliwch y fideo isod i weld hyfforddai blaenorol ar gynllun Bro Abertawe yn trafod ei brofiad:

Cysylltu: