Neidio i'r prif gynnwy

Abertawe a Gorllewin Cymru

Lleolir y ganolfan Diwrnod Astudio ar gyfer Cynllun Abertawe a Gorllewin Cymru yn y Ganolfan Addysg yn Ysbyty Treforys, Abertawe. Mae’r Ganolfan Addysg yn adeilad newydd a agorodd yng ngwanwyn 2015, yn darparu ar gyfer anghenion meddygon a deintyddion ifanc. Mae gan y Ganolfan 13 ystafell ddarlithio o wahanol faint ac rydym yn cynnal llawer o gyrsiau a darlithoedd ar gyfer deintyddion a gweithwyr proffesiynol ym maes gofal deintyddol. Mae gennym gyfleuster pennau cogio hefyd, a fydd yn gallu cynnwys 13 o ymarferwyr ar yr ail lawr yn y ganolfan newydd.

Andrew Matthews yw Cyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddi Cynllun Abertawe a Gorllewin Cymru ac mae wedi bod yn gweithio ers 2003. Cyn hynny roedd yn berchennog practis am 13 blynedd, ac yn Oruchwyliwr Addysg am wyth mlynedd. Erbyn hyn, mae’n gweithio fel deintydd GIG (hunan gyswllt) rhan amser yn y Barri. Yn ogystal, mae’n Ymgynghorydd Deintyddiaeth Gofal Sylfaenol i Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan. Mae ganddo gyfoeth o wybodaeth am ofal deintyddol sylfaenol y GIG. Mae ganddo brofiad o fonitro contractau’r GIG, rheoli cwynion, cynghori ar faterion llywodraethu clinigol a sut i weithio’n effeithlon o fewn fframwaith presennol y GIG. Dros y blynyddoedd mae nifer o ddeintyddion sefydledig (FD) wedi aros yng Ngorllewin Cymru, llawer ohonynt bellach yn Oruchwylwyr Addysgol Deintyddol.

Mae gan Abertawe a gorllewin Cymru enw da am eu golygfeydd, eu diwylliant a’u gweithgareddau chwaraeon. Mae Theatr y Grand yn Abertawe yn lleoliad poblogaidd ar gyfer popeth, o opera i gomedi, ac mae’r ardal yn cynnal nifer o ddigwyddiadau blynyddol difyr gan gynnwys gŵyl gocos, Gŵyl y Mwmbwls a Gŵyl Gerddoriaeth Abertawe sy’n fyd-enwog erbyn hyn. Mae’n hawdd teithio yma gyda Thraffordd yr M4 yn darparu cyswllt uniongyrchol â Llundain a chyswllt â gweddill Lloegr drwy’r M6, yr M42 a’r M5. Mae cysylltiadau rheilffordd rhagorol hefyd yn sicrhau ei bod yn hawdd cyrraedd Abertawe. Nid yw Caerdydd ond 40 milltir i ffwrdd – dim ond 45 munud mewn car.

Mae Andrew yn frwd dros chwaraeon ac mae’n dyfarnu yn ail adran bêl-droed Cymru. Mae hefyd yn gerddor brwd. I’r cefnogwyr chwaraeon, mae digon o gyfle bob amser i wylio timau rygbi’r Gweilch a’r Sgarlets ac mae tîm pêl-droed Dinas Abertawe bellach yn y gynghrair uchaf. Mae’r parciau cenedlaethol lleol ac arfordir Gŵyr yn denu cerddwyr a phobl sy’n mwynhau chwaraeon o bell ac agos.

Gwyliwch y fideo isod i weld hyfforddai blaenorol ar gynllun Abertawe a Gorllewin Cymru yn trafod ei brofiad:

Cysylltu: