Neidio i'r prif gynnwy

Hyfforddiant craidd deintyddol blynyddoedd 2 a 3

Mae Hyfforddiant Deintyddol Craidd (DCT) yn cynnig cyfle i ehangu gwybodaeth a phrofiad yn y proffesiwn deintyddol ac mae'n llwybr gyrfa cydnabyddedig ar ôl cwblhau Hyfforddiant Sylfaen Ddeintyddol (DFT).

Mae amrywiaeth eang o swyddi DCT2 a DCT3 ledled Cymru.  Mae'r swyddi yn yr Ysbyty Deintyddol yng Nghaerdydd ac mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol ledled Cymru. 

Yng Nghymru, mae'r swyddi DCT2 a DCT3 yn caniatáu i'r hyfforddeion weithio fel rhan o dîm ac i hyfforddi mewn amgylchedd cefnogol gyda Goruchwylwyr Clinigol ac Addysgol profiadol a brwdfrydig.  Bydd Cyfarwyddwyr y Rhaglen Hyfforddi ar gyfer y cynllun DCT2/3 yn sicrhau bod yr hyfforddeion yn manteisio i'r eithaf ar eu cyfleoedd a'u cyflawniadau dysgu a fapio i'w Cynlluniau Datblygu Personol drwy gydol y flwyddyn hyfforddi.

Am ragot o wybodaeth am swyddi Blwyddyn 2 a 3 Hyfforddiant Deintyddol Craidd Caerdydd, cysylltwch â:

Julie Tucker Julie.Tucker@wales.nhs.uk Gweinyddwr Rhaglen Hyfforddi

Katherine Mills Katherine.Mills2@wales.nhs.uk Cyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddi