Neidio i'r prif gynnwy

Recriwtio Cenedlaethol DCT 2024 - AaGIC (nhs.wales)

Denture with gun

Mae recriwtio i swyddi Hyfforddiant Deintyddol Craidd  (DCT) yn y DU trwy broses ddethol genedlaethol, sy'n cael ei harwain ar hyn o bryd gan Health Education England (HEE). Mae'r rhan fwyaf o swyddi DCT yng Nghymru bellach yn cael eu prosesu drwy recriwtio cenedlaethol, ac eithrio dim ond nifer fach o swyddi y penodir iddynt drwy recriwtio lleol (Swyddi GIG).

Bydd ceisiadau a chynigion drwy recriwtio cenedlaethol yn cael eu gwneud drwy Oriel, y system recriwtio genedlaethol. Mae'r system yn galluogi cydlynu'r prosesau ymgeisio a chynnig yn genedlaethol ac yn caniatáu i ymgeiswyr dderbyn un swydd yn unig.

Bydd ceisiadau ar gyfer Recriwtio DCT 2024 yn agor ar 9fed Ionawr 2024 ac yn cau ar 1af Chwefror 2024. Am ragor o wybodaeth am Recriwtio Cenedlaethol DCT ar gyfer 2024 gweler gwefan recriwtio genedlaethol. I weld llinell amser recriwtio cenedlaethol 2024 cliciwch yma: Hyfforddiant Deintyddol Craidd Deintyddol (DCT) | dental.hee.nhs.uk

I weld ein Disgrifiadau Post DCT Cymru cliciwch yma.